Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Treth Tir Gwag - 3 Mawrth 2020

Dogfennau ategol:

2.2

PTN2 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) - 4 Mawrth 2020

Dogfennau ategol:

(09.00-10.00)

3.

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 4

Yr Athro Kent Matthews, Athro Bancio a Chyllid Syr Julian Hodge, Ysgol Fusnes Caerdydd

Dr Long Zhou, Myfyriwr ymchwil, Ysgol Fusnes Caerdydd

 

Papur 1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Ysgol Fusnes Caerdydd

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: yr Athro Kent Matthews, athro bancio a chyllid Syr Julian Hodge, Ysgol Fusnes Caerdydd; a Dr Long Zhou, myfyriwr ymchwil, Ysgol Fusnes Caerdydd.

 

(10.00-11.15)

4.

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Sesiwn dystiolaeth 5

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Polisi Strategaeth Treth ac Ymgysylltu, Llywodraeth Cymru

Tom Nicholls, Cynghorydd Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Anna Adams, dirprwy gyfarwyddwr, pennaeth polisi strategaeth treth ac ymgysylltu, Llywodraeth Cymru; a Tom Nicholls, cynghorydd economaidd, Llywodraeth Cymru.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion ynghylch nifer y rhai a gyflogir yn y sector cyhoeddus sy'n talu’r gyfradd uwch o dreth incwm yng Nghymru.

 

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15-11.30)

6.

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.