Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/01/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS. Roedd Mick Antoniw AS yn dirprwyo ar ei ran.

 

 

(09.30-11.30)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 7

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd 

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni Cyllideb,  Llywodraeth Cymru

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu

 

Papurau ategol:

FIN(5)-04-21 P1 – Tystiolaeth ysgrifenedig: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol; Matt Wellington, Pennaeth Cyflawni’r Gyllideb; ac Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth yr Is-adran Polisi Strategaeth Trethi ac Ymgysylltu, ar graffu ar gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.

 

(11.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod ar 27 Ionawr 2021.

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30-12.00)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth / prif faterion

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.00-12.30)

5.

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.