Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd
y papurau eu nodi. 2.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif
Ysgrifennydd y Trysorlys ar ôl eu llythyrau'n gwrthod gwahoddiad y Pwyllgor i
roi tystiolaeth i'r ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. |
|
PTN 1 - Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys - Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru - 2 Ebrill 2019 Dogfennau ategol: |
||
PTN2 - Llythyr gan y Gwir Anrh. Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru - 10 Ebrill 2019 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1 Gerald
Holtham, Athro Hodge mewn Economi Ranbarthol Dr
Stanimira Milcheva, Athro Cyswllt mewn Cyllid Seilwaith ac Eiddo Tirol, Coleg
Prifysgol Llundain Papur 1 –
Tystiolaeth ysgrifenedig: Gerald Holtham Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gerald Holtham, Athro Hodge mewn Economi
Ranbarthol a Dr Stanimira Milcheva, Athro Cyswllt mewn Eiddo Tirol a Chyllid
Seilwaith, Coleg Prifysgol Llundain ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth
Cymru. |
|
(10.45-11.45) |
Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2 Peter
Reekie, Prif Weithredwr, Scottish Futures Trust Papur 2 -
Tystiolaeth ysgrifenedig: Scottish Futures Trust Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Reekie, Prif Weithredwr, Scottish
Futures Trust, ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. |
|
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.45-12.00) |
Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.00-12.15) |
Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru Papur 3 –
Dull ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft 2020-21
Llywodraeth Cymru, a chytuno i wneud y canlynol: ·
cynnal
digwyddiad rhanddeiliaid yn y canolbarth ar 27 Mehefin 2019; ·
ysgrifennu
at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu ar gyfer gwaith craffu; ·
cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus ar ddisgwyliadau rhanddeiliaid o gyllideb ddrafft
2020-21 i lywio gwaith craffu'r Pwyllgor, sydd i'w wneud dros doriad yr haf; ·
rhoi
cyngor arbenigol mewn perthynas â'r polisi treth. |
|
(12.15-12.30) |
Cyllideb Atodol 1af 2019-20 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Papur 4 -
Memorandwm Esboniadol Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru ar gyfer 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Nododd
y Pwyllgor gais yr Ombwdsmon am gyllideb atodol a chytunodd i'w drafod
ymhellach pan gyflwynir y cynnig cyllideb atodol. |