Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 245KB) Gweld fel HTML (221KB)

(9.40)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

(9.40)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2. Nodwyd y papurau

 

(9.40-10.25)

3.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 1

Matthew Mortlock  - Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters - Rheolwr Moeseg a'r Gyfraith, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 - Swyddfa Archwilio Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru.

3.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn rhoi manylion am y costau llawn sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y flwyddyn 2016-17.

 

(10.30-11.15)

4.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 2

Johnathan Price - Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru

Andrew Hobden - y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 - Llywodraeth Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am gostau gwirioneddol y pedair Deddf sy'n cael eu cynnwys yn yr ymchwiliad:

·         Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·         Deddf Cymwysterau Cymru 2015;

·         Deddf Tai (Cymru) 2014; a

·         Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 

(11.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5. Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15-11.25)

6.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.25-11.40)

7.

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 - Yr adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(11.40-12.10)

8.

Trosolwg o Brosesau Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 4 – Trosolwg o Recriwtio Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8. Cytunodd y Pwyllgor ar gamau nesaf proses recriwtio Swyddfa Archwilio Cymru a'r contractau ar gyfer Aelodau newydd o'r Bwrdd.