Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 345KB) Gweld fel HTML (274KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Reckless AC.

 

(09.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.15-10.30)

3.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Sesiwn dystiolaeth 4

Mari Thomas, Swyddog Polisi Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Huw David (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y Cynghorydd Anthony Hunt (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen), Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau

 

Papur 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mari Thomas, Swyddog Polisi Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, y Cynghorydd Huw David (Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Cynghorydd Anthony Hunt (Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen), Dirprwy Lefarydd CLlLC ar gyfer Cyllid ac Adnoddau.

 

3.2 Cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar ei asesiad o ddigonolrwydd y gyllideb ar gyfer 2017-18 i ymdrin â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

 

(10.30-11.30)

4.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Sesiwn dystiolaeth 5

David Robinson OBE, Uwch-gynghorydd, Community Links

Yr Athro Ceri Phillips, Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Marcus Longley, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Athro Polisi Iechyd Cymhwysol, Prifysgol De Cymru

Anita Charlesworth, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Economeg, y Sefydliad Iechyd

 

Papur 2 - Community Links - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 3 - Prifysgol De Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

Papur 4 - y Sefydliad Iechyd - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Robinson, OBE, Uwch Gynghorydd Community Links, yr Athro Ceri Phillip, Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe, yr Athro Marcus Longley, Cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac Athro Polisi Iechyd Cymhwysol, Prifysgol De Cymru ac Anita Charlesworth, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Economeg, y Sefydliad Iechyd.

 

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30-11.45)

6.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.45-12.00)

7.

Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2017-18: Ystyried yr adroddiad drafft

Papur 5 - Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2017-18 - Adroddiad drafft

Papur 6 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - gwybodaeth meincnodi yn erbyn sefydliadau perthnasol yng Nghymru a chynlluniau ombwdsmyn eraill yn y DU

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft â mân newidiadau.

 

(12.00-12.15)

8.

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru

Papur 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - 27 Hydref 2016 - Datganoli pwerau cyllidol i Gymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr ar weithredu Deddf Cymru 2014 yn y flwyddyn newydd.

 

 

(12.15-12.30)

9.

Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru): Trafod y cyngor arbenigol

Papur 8 - Penodi Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar gyngor arbenigol ar gyfer y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a phenderfynodd peidio â phenodi cynghorydd arbenigol.