Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.30-09.45) |
Ystyried cyngor cyfreithiol mewn perthynas ag Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Briff cyfreithiol – Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Cafodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol gan staff y Comisiwn mewn
perthynas ag adran 7 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. |
|
(09.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC. |
|
(09.45) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papurau. |
|
(09.45-10.00) |
Ystyried Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru Matthew Richards - Uwch Gynghorydd Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol
Cymru Papur 1 – Ystyried Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran talu cydnabyddiaeth i Archwilydd
Cyffredinol Cymru a nodwyd bod y Prif Weithredwr a'r Clerc wedi ymgynghori â'r
Prif Weinidog. Penderfynodd y Pwyllgor y dylai trefniadau talu cydnabyddiaeth
Archwilydd Cyffredinol Cymru aros fel y'u nodir yn ei amodau a thelerau
cyfredol. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6, 7, 8 ac 9 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.00-11.30) |
Briffio ar y Bil Treth Trafodion Tir Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth
Cymru Repa Antonio - Rheolwr Prosiect Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt - Rheolwr Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru Sean Bradley - Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi
Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru; Repa Antonio – Rheolwr Prosiect Treth
Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru; Andrew Hewitt – Rheolwr Polisi Treth
Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru; a Sean Bradley – Uwch-gyfreithiwr,
Llywodraeth Cymru; ar y Bil Treth Trafodiadau Tir. |
|
(11.30-11.45) |
Ystyried y dull o graffu ar y gyllideb ddrafft Papur 2 - Dull y Pwyllgor o ran craffu ar y gyllideb ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2017-18. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar
gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu'r Pwyllgor, a gynhelir yn
ystod toriad yr haf. |
|
(11.45-12.00) |
Ystyried rhaglen waith dros dro tymor yr hydref Papur 3 - Papur Clawr y rhaglen waith dros dro Papur 4 - Rhaglen waith dros dro y pwyllgor yn ystod Tymor yr Hydref Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi ei raglen waith ar ei wefan. |
|
(12.00-12.15) |
Ystyried llythyr drafft i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru Papur 5 - Llythyr drafft i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. |