Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i’r
cyfarfod. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd David Rees AC a Steffan Lewis AC fel aelodau newydd o’r Pwyllgor. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(09.30-10.00) |
Ystyried goblygiadau ariannol Bil Cymru Papur 1 – Llythyr oddi wrth y Llywydd at Ysgrifennydd
Gwladol Cymru Papur 2 – Blaenddalen i’r briff cyfreithiol ac ymchwil ar
oblygiadau ariannol Bil Cymru Briff y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ystyriodd yr aelodau oblygiadau ariannol y
darpariaethau ym Mil Cymru Llywodraeth y DU. 3.2 Ystyriodd yr aelodau ddiwygiadau’r Llywydd i’r Bil a
cytunodd yr aelodau i ysgrifennu i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol gyda’u barn ar y Bil. |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfan o'r cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2016 Cofnodion: 4.1 Cytunwyd y cynnig. |
|
(10.00-11.30) |
Sesiwn briffio ar ddatganoli trethi Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a
Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth
Cymru Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau,
Llywodraeth Cymru Cofnodion: 5.1 Cafodd Aelodau eu briffio ar ddatganoli trethi yng
Nghymru gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth,
Llywodraeth Cymru, Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth Cymru,
a Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru. |
|
(11.30-11.50) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2016-17: Ystyried adroddiad drafft Papur 3 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft gyda mân
welliannau. |
|
(11.50-12.20) |
Cyfrifoldebau a busnes cynnar y Pwyllgor Papur 4 – Cyfrifoldebau a busnes cynnar y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor eitemau o’i fusnes cynnar, a
trafododd gynigion ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol. |