Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 120(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 2 a 4 -10. Ni ofynnwyd cwestiynau 1 a 3. Atebwyd cwestiwn 5 a 9 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (i’w ateb gan
y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant): Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â gwasanaethau plant ym
Mhowys yn sgil adroddiad gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin
Cymru am farwolaeth plentyn o dan ofal y Cyngor Sir? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (i’w ateb gan
y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant): Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet ddatganiad ynglŷn â gwasanaethau plant ym Mhowys yn sgil
adroddiad gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am
farwolaeth plentyn o dan ofal y Cyngor Sir? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.32 Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad ar Y Cyfnod/ Corwen Times. Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Hyrwyddwyr Rhywogaethau yn ‘Show the
Love’ ar y Dydd Sant Ffolant hwn. Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad ar y chwaraewr rygbi Arthur
‘Monkey’ Gould. |
|||||||||
Cynigion i ethol Aelod i bwyllgorau (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.37 NDM6659
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Dawn Bowden (Llafur). NDM6660
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Mick Antoniw (Llafur). NDM6661
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Jack Sargeant (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle of Lee Waters (Llafur). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu NDM6635 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) David
Melding (Canol De Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cefnogwyd gan Vikki
Howells (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb eu
mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol
perthnasol. 2. Yn nodi bod nifer o ddatblygwyr heb adeiladu
ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy. 3. Yn cydnabod bod gwendidau yn y broses o brynu tai nad
yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr symiau dargadw ariannol digonol yn
eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol. 4. Yn cydnabod bod y prynwyr tai hynny yn aml yn wynebu
gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er mwyn dod â ffyrdd at safon
mabwysiadwy'r awdurdod lleol. 5. Yn nodi bod nifer o'r ffyrdd hyn yn parhau i fod heb
eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer o flynyddoedd, weithiau yn
fytholbarhaus. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu, i
gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid
allweddol eraill, gyda golwg ar ddatblygu gwelliannau i'r broses o brynu
tai a mabwysiadu ffyrdd. 7. Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau
gostyngiad yn nifer y ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 NDM6635 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) David Melding (Canol De Cymru) Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cefnogwyd gan Vikki Howells (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
nifer y ffyrdd yng Nghymru sydd heb eu mabwysiadu, ac felly nad ydynt yn
cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol perthnasol. 2. Yn nodi bod nifer o
ddatblygwyr heb adeiladu ffyrdd ar ystadau newydd i safonau mabwysiadwy. 3. Yn cydnabod bod
gwendidau yn y broses o brynu tai nad yw bob amser yn sicrhau bod gan brynwyr
symiau dargadw ariannol digonol yn eu lle i ddod â'r ffyrdd hyn at safon
mabwysiadwy'r awdurdod lleol. 4. Yn cydnabod bod y
prynwyr tai hynny yn aml yn wynebu gorfod buddsoddi symiau sylweddol o arian er
mwyn dod â ffyrdd at safon mabwysiadwy'r awdurdod lleol. 5. Yn nodi bod nifer
o'r ffyrdd hyn yn parhau i fod heb eu mabwysiadu ac mewn cyflwr gwael, am nifer
o flynyddoedd, weithiau yn fytholbarhaus. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu, i gynnwys awdurdodau lleol, y proffesiwn
cyfreithiol, datblygwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, gyda golwg ar
ddatblygu gwelliannau i'r broses o brynu tai a mabwysiadu ffyrdd. 7.
Yn ceisio datblygu rhaglen Cymru gyfan i sicrhau gostyngiad yn nifer y
ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd NDM6654 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 7 Chwefror 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM6654 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Rhagfyr 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. . |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd Meddwl NDM6658 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da. 2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn
wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau
iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl
effeithiol ac ataliol. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn sicrhau bod plant sydd angen triniaeth ar gyfer iechyd
meddwl yn ei derbyn yn brydlon cyn i'w cyflwr waethygu a bod Llywodraeth Cymru
yn cyhoeddi ystadegau ar berfformiad yn erbyn yr amcan hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem 17.47 NDM6658 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da. 2. Yn gresynu bod rhai
pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio
gwasanaethau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau
iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl
effeithiol ac ataliol. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6658 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da. 2. Yn gresynu bod rhai
pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio
gwasanaethau. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau
iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl
effeithiol ac ataliol.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.44 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6650 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Bod yn ddoeth o ran tlodi tanwydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.45 NDM6650
Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Bod yn ddoeth o ran tlodi tanwydd. |