Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 289(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol"

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, a 5 - 8. Tynnwyd cwestiynau 3 a 4 yn ôl.

(15 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.42

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.03 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf ar Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

6.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020

NDM7381 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2020.

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

2

51

Derbyniwyd y cynnig.

7.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020

NDM7382 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Awst 2020.

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7382 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Awst 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

2

51

Derbyniwyd y cynnig.

8.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 - GOHIRIWYD TAN DDYDD MAWRTH 29 MEDI

NDM7383 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan ddydd Mawrth 29 Medi.

9.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

NDM7380 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.   Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2020.

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7380 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

4

51

Derbyniwyd y cynnig.

10.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 - TYNNWYD YN ÔL

NDM7379 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2020.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

(15 munud)

11.

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020

NDM7378 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7378 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

4

0

51

Derbyniwyd y cynnig.

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 17.19, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.27

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Pwynt o Drefn

Cododd Adam Price Bwynt o Drefn yn nodi bod nifer o Aelodau heddiw wedi gofyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog i gael ei wneud yn y Senedd pe bai unrhyw fwriad i gyflwyno newidiadau polisi ar gyfyngiadau Cofid-19. Roedd yr Aelodau wedi cael ar ddeall bod datganiad ar fin cael ei wneud, yn dilyn datganiad cynharach Prif Weinidog y DU, ac roedd yn bwysig eu bod yn cael cyfle i graffu’n effeithiol.

Dywedodd y Llywydd ei bod wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn a’i bod ar ddeall nad oedd penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud. O ystyried hynny, nid oedd yn bosibl i ddatganiad gael ei wneud yn y Senedd heno ond roedd wedi cael ar ddeall y byddai un yn cael ei wneud yfory.