Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 287(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Datganiad gan y Llywydd Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y Llywydd
bod Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw
leoliad drwy ddulliau electronig. Cyhoeddodd y Llywydd wedyn, yn
unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
2020 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi. |
||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau
am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.32 Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip gwestiynau 1-4
a 6-7 am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau.
Ni ofynnwyd cwestiwn 5. |
|
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.53 Am 15.12, yn unol â Rheol
Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod, ei atal dros dro gan y Llywydd tan 15.25. |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.25 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu'r Gaeaf Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.17 Am 17.05, yn unol â Rheol
Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd tan
17.11. |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai, Tlodi a Chymunedau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.11 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 |