Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 273(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. 

Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda. 

Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. 

(5 munud)

1.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.33

(30 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (Covid-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.33

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ymateb i'r Coronafeirws (Covid-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.52

 

Derbyniwyd y cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd a'u bod yn destun un bleidlais (60 munud)

Am 16.00 gohiriwyd y cyfarfod am 15 munud.

4.

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

NDM7307 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Gosodwyd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2019;

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2020.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

Dyfarniad y Llywydd

16.22 -  Yn unol â Rheol Sefydlog 13.11, dywedodd y Llywydd ei bod yn ofynnol Neil McEvoy ymneilltuo o drafodion y Cynulliad

Gohiriwyd pleidlais ar y cynigion o dan eitemau 4 a 5 tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7307 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Cafodd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2019;

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2020.

5.

Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

NDM7308 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

NDM7308 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Fel y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.

Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr.

Gan fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Egwyddorion Cyffredinol a Phenderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ar gyfer pleidleisio, cafwyd un bleidlais fel a ganlyn.

 

  • Ar ran y Grŵp Llafur a'r llywodraeth – John Griffiths (30 pleidlais)

 

  • Ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru – Darren Millar
    (11 pleidlais)

 

  • Ar ran Plaid Cymru – Helen Mary Jones
    (9 pleidlais)

 

  • Ar ran Plaid Brexit – Caroline Jones
    (4 pleidlais)

 

  • Neil Hamilton

 

Canlyniad y bleidlais ar y cynigion oedd:

O blaid:

Yn ymatal

Yn erbyn:

Cyfanswm

30

0

25

55

Derbyniwyd y cynigion.

 

 

6.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.30

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: