Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 219(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.29 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol - Adroddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.52 |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd - Mesurau Datblygu Economaidd - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd
yr eitem hon yn ôl. |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.20 |
|
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) NDM7105 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a
Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil
i’w weld ar wefan Senedd y DU: https://services.parliament.uk/Bills/2017-19/censusreturnparticularsandremovalofpenalties.html Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.21 NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a
Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli NDM7107 - Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad
y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru. 2. Yn croesawu
argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr
gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. 3. Yn nodi’r
gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan
gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor
Materion Cymreig. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy: a) amlinellu
cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a b) datganoli’r Doll
yn llawn erbyn 2021. Y
Pwyllgor Materion Cymreig - Datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru (Saesneg
yn unig) Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.27 NDM7107 - Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i
Gymru. 2.
Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll
Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. 3.
Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r
doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y
Pwyllgor Materion Cymreig. 4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy: a)
amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad
Cenedlaethol; a b)
datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021. Cyd-gyflwynwyr Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |