Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 145(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.58 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid – Cymru, Cenedl sy'n Noddfa Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid Anwes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16:29 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: Gwneud i'r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif - TYNNWYD YN ÔL |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018 NDM6742 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cymeradwyo bod y fersiwn
drafft o’r Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018 yn cael
ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2018. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.11 NDM6742 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd
(Microbelenni) (Cymru) 2018 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) NDM6746
Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.23 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.67, gwnaeth
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ei
fod wedi derbyn gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod
i’r Cynulliad fod y ddau ohonynt, ar ôl cael gwybod am gynnwys Bil Iechyd y
Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru), wedi rhoi eu cydsyniad i’r Bil. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal
pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio. NDM6746 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn
cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Dwy Flynedd ers Refferendwm yr UE NDM6741 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin 2018. 2.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael
â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o
hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn
refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn
trafodaethau gyda'r UE. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd. Yn
galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu
dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio
proses Brexit. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen
orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i
gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod
wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai "unrhyw ymgais o’r
fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn" ganddi. Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn
pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal
Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, "Nid
oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU
yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl". Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.43 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin
2018. 2.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael
â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o
hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 -
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn
refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn
trafodaethau gyda'r UE. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 -
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd. Yn
galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu
dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio
proses Brexit. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen
orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i
gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod
wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai "unrhyw ymgais o’r
fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn" ganddi. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn
pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal
Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, "Nid
oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU
yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl". Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin
2018. 2.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael
â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o
hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.43 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |