Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 113(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynnydd o ran y Gronfa Triniaethau Newydd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.58 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.22 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Diwydiant Bwyd a Diod Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.10 |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 NDM6629
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o'r Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn
cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.57 NDM6629 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi
(Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 NDM6628
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o
Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio
yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2017. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.04 NDM6628 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a
Lloegr) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru NDM6627
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r
adolygiad o Amgueddfa Cymru – National Museum Wales. 2. Yn croesawu agwedd gadarnhaol
yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol ac ansawdd y gwaith a wneir gan
y staff. 3. Yn cydnabod y materion a
godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru weithio mewn
partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad. Dogfen
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.10 NDM6627
Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cyhoeddi’r adolygiad o Amgueddfa Cymru – National Museum Wales. 2.
Yn croesawu agwedd gadarnhaol yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol
ac ansawdd y gwaith a wneir gan y staff. 3.
Yn cydnabod y materion a godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth
Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr
adroddiad. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |