Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 109(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Croesawodd y Llywydd Mandy Jones, yr Aelod newydd dros
ranbarth Gogledd Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant: Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth i gael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.48 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.38 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 NDM6618 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun
Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2017. Dogfen
ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.03 NDM6618 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael
ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni NDM6617 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun
Cyflawni. Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu: a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul
pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r
Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o
gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn
y DU; b) bod adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead?
What 2018 might hold for Wales”, yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y
DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o
fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer
na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant); c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd
Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019. Sefydliad
Bevan - "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales (Saesneg yn
unig) Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn
siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol:
Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru;
Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu
fynd yn ei flaen. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad
"Creu Sbarc", i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau
cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad
Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth
gyda'i gilydd. Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob
rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol. Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff
y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn. Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro,
hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 NDM6617 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cyhoeddi Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu: a) bod gwerth nwyddau a
gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn
is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU,
ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i
Ynys Môn fel yr isaf yn y DU; b) bod adroddiad
Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”, yn
nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y
flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny
o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful
(7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant); c) y gohiriwyd cyflwyno
rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill
2019. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a
chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a
gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd
sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi er mwyn cael
ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy
proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd
angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac
entrepreneuriaeth gyda'i gilydd. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n
weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr angen am
fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd
gorllewinol. Yn credu mai dim ond
gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn. Yn credu y bydd angen
corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6617 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni. 2. Yn gresynu: a)
bod gwerth
nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol
Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod
ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn
ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU; b)
bod
adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”,
yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros
y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau
hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr
Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant); c)
y gohiriwyd
cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan
fis Ebrill 2019. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a
chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a
gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd
sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen. 4. Yn nodi er mwyn cael
ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy
proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd
angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac
entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru NDM6616 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol
Cenedlaethol Cymru (WNMP). 2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’
cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft. 3. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft,
bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau
naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol. 4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i
ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru. Cynllun
Morol Cenedlaethol Drafft Cymru Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir
Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan
Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit. Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn
Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu
llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at yr oedi o ran cyhoeddi cynllun morol
terfynol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr her i foroedd Cymru yn dilyn y
penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. [Os derbynnir gwelliant
2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl "chydweithio" a
mewnosod: "ond yn gresynu at yr oedi wrth lunio Cynllun Morol
Cenedlaethol Drafft Cymru." Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i
economi ac amgylchedd morol Cymru yn y dyfodol. Gwelliant 5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig
untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel,
yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.19 NDM6616 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r
ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP). 2. Yn cydnabod ac yn
cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y
cynllun drafft. 3. Yn cydnabod, fel y
nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd
rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant
cenedlaethol. 4. Yn croesawu ymrwymiad
parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a
gweithredu cynllunio morol i Gymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu buddsoddiad
yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad
cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit. Yn gresynu at yr oedi
wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a
fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Dileu pwynt 4 a rhoi yn
ei le: Yn gresynu at yr oedi o
ran cyhoeddi cynllun morol terfynol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr her i
foroedd Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ym mhwynt 4, dileu
popeth ar ôl "chydweithio" a mewnosod: "ond yn gresynu at
yr oedi wrth lunio Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru." Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i economi ac amgylchedd morol Cymru yn y
dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd
Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6616 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r
ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP). 2. Yn cydnabod ac yn
cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y
cynllun drafft. 3. Yn croesawu
buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am
fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit. 4. Yn gresynu at yr oedi
wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a
fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw. 5. Yn cydnabod, fel y
nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd
rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant
cenedlaethol. 6. Yn croesawu ymrwymiad
parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a
gweithredu cynllunio morol i Gymru. 7. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd
Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.17 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |