Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 98(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd
y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Mark Isherwood
(Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Rhaglen
Targedu Buddsoddiad Adfywio, yn dilyn ei lansiad ar 20 Hydref 2017? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (i’w ateb gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes): Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ddata sy’n
dangos bod myfyrwyr o Gymru yn cyfrif am 2 y cant yn unig o’r myfyrwyr a
dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.33 Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Mark Isherwood
(Gogledd Cymru): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Rhaglen Targedu Buddsoddiad
Adfywio, yn dilyn ei lansiad ar 20 Hydref 2017? Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg (atebwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes): Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ddata sy’n dangos bod myfyrwyr o Gymru yn
cyfrif am 2 y cant yn unig o’r myfyrwyr a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt
y llynedd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.44 Gwnaeth
Darren Millar ddatganiad i nodi 500 mlynedd ers y Diwygiad Protestanaidd. Gwnaeth
Dawn Bowden ddatganiad ar ail-gyhoeddi plac ym Merthyr Tudful i goffáu
gwirfoddolwyr y Frigâd Ryngwladol o’r ardal a fu’n ymladd yn Rhyfel Cartref
Sbaen. Gwnaeth
Jenny Rathbone ddatganiad ar y Cynadleddau Llysiau a gynhaliwyd ar yr un pryd
yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin ar 24 Hydref. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod NDM6350
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n addasu'r broses
gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio). 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd
Cymru ac iechyd y cyhoedd. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r
cynnig hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.49 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6350
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n addasu'r broses gynllunio fel bod
rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio). 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliant
a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd NDM6547
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, 'Cymunedau yn Gyntaf –
yr hyn a ddysgwyd', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.19 NDM6547
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr
ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, 'Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6546
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng
Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig
trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig; b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf Cymru
ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb
datganoledig; c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth
bosib wedi'i nodi fel cynnig i'w ystyried; a d) nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gyflwyno treth
newydd yng Nghymru. 'Deddf Cymru
2014' (Saesneg yn unig) [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylid gweithredu treth ar blastigau tafladwy
yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6546 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu na ddylid gweithredu
treth dwristiaeth yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig
trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig; b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf
Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb
datganoledig; c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth
bosib wedi'i nodi fel cynnig i'w ystyried; a d) nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gyflwyno treth
newydd yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6546 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig
trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig; b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf
Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb
datganoledig; c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth
bosib wedi'i nodi fel cynnig i'w ystyried; a d) nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gyflwyno treth
newydd yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6549
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol. 2. Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros
les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â'r diwylliant o
sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd i unigolion nid cartrefi. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y pryder sy'n bodoli ynghylch cyflwyno
credyd cynhwysol. 2. Yn croesawu'r egwyddorion y tu ôl i'r credyd
cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd
credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan
fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal
yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn nodi'r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy'n agored i
niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno'r
credyd cynhwysol sy'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus
datganoledig. Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth
les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau
a thaliadau lles a'r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau
niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno'r credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r
pryderon sylfaenol sy'n cael eu codi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6549 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder ynghylch
cyflwyno’r credyd cynhwysol. 2. Yn credu y dylid datganoli
rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y
taliadau, dod â'r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd
i unigolion nid cartrefi.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pob dim a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y pryder sy'n bodoli ynghylch cyflwyno
credyd cynhwysol. 2. Yn croesawu'r egwyddorion y tu ôl i'r credyd
cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd
credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan
fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal
yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd: Yn nodi'r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy'n agored i
niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno'r
credyd cynhwysol sy'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus
datganoledig. Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth
les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau
a thaliadau lles a'r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau
niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno'r credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r
pryderon sylfaenol sy'n cael eu codi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6549 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: NDM6549 Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6548
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Darparu gofal sylfaenol yn Llanidloes: dull arloesol o
leddfu'r pwysau ar feddygon teulu Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.30 NDM6548
Russell George (Sir Drefaldwyn) Darparu
gofal sylfaenol yn Llanidloes: dull arloesol o leddfu'r pwysau ar feddygon
teulu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |