Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 66(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.14 Gofynnwyd y 3
chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau amserol I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon Jeremy
Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet
ddatganiad am ei benderfyniad i gymeradwyo defnyddio proffylacsis
cyn-gysylltiad yng Nghymru fel rhan o astudiaeth? I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad am yr archwiliad sy’n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Betsi
Cadwaladr i adroddiadau y gallai ansawdd y gofal a gafodd cleifion dementia ar
ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fod wedi cyfrannu at o leiaf saith o
farwolaethau? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.26 |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ddatganiadau 90 eiliad. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Grant Gwella Addysg: plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig NDM6296
Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i'r Grant
Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig
a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2017. Dogfen ategol: Ymateb
gan Lywodraeth Cymru (PDF, 405KB) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.47 NDM6296 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg ar yr ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a
Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6295 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn
allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl. 2. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng
Nghymru wedi gostwng 6.5 y cant ers 2011-12, gan effeithio'n anghymesur ar rai
o'r bobl mwyaf gwan a hawdd eu niweidio mewn cymunedau ledled Cymru. 3. Yn cydnabod y rhan bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei
chwarae o ran: a) datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â'r gymuned
fusnes; b) sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel; c) darparu addysg o safon; a d) darparu gofal gwasanaethau cymdeithasol sy'n gofalu am
y bobl mwyaf bregus mewn cymunedau ledled Cymru. 4. Yn nodi bod cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr
Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid Cymru bron £22,000 yn is na'r Cynghorau
yng Nghymru a gaiff eu harwain gan Lafur. 5. Yn credu y dylai prosiectau datblygu tai fforddiadwy
lleol fod yn seiliedig ar anghenion y gymuned. 6. Yn nodi llwyddiant y model tracio datblygiad plentyn,
a ddefnyddir gan Gyngor Ceredigion - yr unig gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn ei
fod yn perfformio'n rhagorol yng Nghymru yn y cylch llawn diwethaf o
arolygiadau - i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu llawn botensial, gyda chymorth
yn gynnar iawn i'r rhai nad ydynt yn cyflawni yn ôl y disgwyl. 7. Yn gresynu bod canran cyfanswm gwariant caffael
llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog ar 58 y cant ers 2012. 8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu contractau dim
oriau yn y sector gofal cymdeithasol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt 1. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4 a 5
yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu bod cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng
Nghymru wedi gostwng 6.78 y cant ers 2013-14, gan effeithio'n anghymesur ar ein
cymunedau gwledig, gan gynnwys toriadau o 9.98 y cant i Sir Fynwy, 9.36 y cant i
Fro Morgannwg a 7.96 y cant i Gonwy. Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn nodi mai cyflog Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, a
gaiff ei arwain gan y Ceidwadwyr Cymreig yw un o'r isaf yng Nghymru, ac yn
cymeradwyo tryloywder y cyngor o ran cyhoeddi pob gwariant. Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le: Yn nodi hawl pob plentyn a pherson ifanc i gael cyfle
i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn nodi pwysigrwydd cyllid uniongyrchol ar
gyfer ysgolion o ran galluogi rhieni i allu dewis yr ysgol orau i'w plant. Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 8 a rhoi yn ei le: Yn nodi gwerth gweithwyr gofal cymdeithasol o ran
cynorthwyo gwasanaethau'r GIG sydd wedi'u canoli a'u gor-lwytho, a phwysigrwydd
integreiddio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.28 Cafodd y trafodion
eu hatal dros dro gan y Llywydd am 16.17 oherwydd i ddiffyg ar y meicroffonau
effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei chanu 2 funud cyn ailgynnull am 16.40. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6295 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod
gwasanaethau cyhoeddus lleol o safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein
cenedl. 2. Yn gresynu bod cyllid
ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng 6.5 y cant ers 2011-12, gan
effeithio'n anghymesur ar rai o'r bobl mwyaf gwan a hawdd eu niweidio mewn
cymunedau ledled Cymru. 3. Yn cydnabod y rhan
bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae o ran: a) datblygu economïau
lleol mewn partneriaeth â'r gymuned fusnes; b) sicrhau bod ein
strydoedd yn lân ac yn ddiogel; c) darparu addysg o
safon; a d) darparu gofal
gwasanaethau cymdeithasol sy'n gofalu am y bobl mwyaf bregus mewn cymunedau
ledled Cymru. 4. Yn nodi bod
cyfartaledd cyflog Prif Weithredwyr Cynghorau a gaiff eu harwain gan Blaid
Cymru bron £22,000 yn is na'r Cynghorau yng Nghymru a gaiff eu harwain gan
Lafur. 5. Yn credu y dylai
prosiectau datblygu tai fforddiadwy lleol fod yn seiliedig ar anghenion y
gymuned. 6. Yn nodi llwyddiant y
model tracio datblygiad plentyn, a ddefnyddir gan Gyngor Ceredigion - yr unig
gyngor a ddyfarnwyd gan Estyn ei fod yn perfformio'n rhagorol yng Nghymru yn y
cylch llawn diwethaf o arolygiadau - i sicrhau bod plant yn cyrraedd eu llawn
botensial, gyda chymorth yn gynnar iawn i'r rhai nad ydynt yn cyflawni yn ôl y
disgwyl. 7. Yn gresynu bod canran
cyfanswm gwariant caffael llywodraeth leol yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog
ar 58 y cant ers 2012. 8. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddileu contractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu
dad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6295 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus lleol o
safon yn allweddol i ffyniant a llesiant ein cenedl.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6297 David J
Rowlands (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau
cynhyrchu ynni a'i pholisi effaith amgylcheddol. 2. Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng
Nghymru. 3. Yn credu: a) mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo
ffermydd solar yn eu hardal; b) na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu
ffermydd solar; ac c) y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y
sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, drwy: i) annog gosod ffenestri gwydr triphlyg mewn adeiladau
preswyl ac adeiladau eraill; a ii) annog gosod boeleri sy'n rhad ar danwydd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth
a rhoi yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar ynni sef Ynni Cymru. 2. Yn nodi’r
targed deddfwriaethol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o
leiaf 80 y cant erbyn 2050. 3. Yn
cydnabod y ffaith bod y system gynllunio’n creu cyfleoedd i warchod tirwedd
unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: 'gyda'r nod o sicrhau 40 y cant o ostyngiad mewn allyriadau
carbon erbyn 2020, gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau carbon erbyn 2050 ac
economi ddi-garbon.' Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 2. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn is-bwynt 3(a) dileu 'mai cymunedau ddylai gael y
gair olaf' a rhoi yn ei le 'y dylai cymunedau gael mynegi barn'. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3(a): 'drwy strwythurau democrataidd lleol a chenedlaethol ar
gyfer gwneud penderfyniadau, ar sail egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015.' 'Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015' Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu is-bwynt 3(b). Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu is-bwynt 3(c) a rhoi yn ei le: 'y dylid cefnogi'r ffordd y mae adeiladau preswyl, y
sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai o ynni, gyda rheoliadau adeiladu
cryfach ar gyfer adeiladau newydd i fod bron yn ddi-ynni a thrwy raglen ôl-ffitio
ar raddfa fawr ar gyfer cartrefi preswyl presennol.' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.54 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6297 David
J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cyfarwyddo
Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau cynhyrchu ynni a'i pholisi effaith
amgylcheddol. 2. Yn nodi bod nod o
gyflawni economi di-garbon yng Nghymru. 3. Yn credu: a) mai cymunedau ddylai
gael y gair olaf o ran cymeradwyo ffermydd solar yn eu hardal; b) na ddylai coed aeddfed
gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar; ac c) y dylid cefnogi'r
ffordd y mae adeiladau preswyl, y sector cyhoeddus a busnesau yn defnyddio llai
o ynni, drwy: i) annog gosod ffenestri
gwydr triphlyg mewn adeiladau preswyl ac adeiladau eraill; a ii) annog gosod boeleri
sy'n rhad ar danwydd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar
ynni sef Ynni Cymru. 2. Yn nodi’r targed deddfwriaethol o leihau
allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. 3. Yn cydnabod y ffaith bod y system gynllunio’n
creu cyfleoedd i warchod tirwedd unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i
gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4, 5, 6 a 7
eu dad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6297 David
J Rowlands (Dwyrain De Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi strategaeth bolisi Llywodraeth Cymru ar
ynni sef Ynni Cymru. 2. Yn nodi’r targed deddfwriaethol o leihau
allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. 3. Yn cydnabod y ffaith bod y system gynllunio’n
creu cyfleoedd i warchod tirwedd unigryw Cymru a hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i
gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.45 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6294 Hannah
Blythyn (Delyn) Ysgol Wleidyddiaeth – grymuso'r genhedlaeth nesaf o
ddinasyddion gweithgar yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.49 NDM6294 Hannah Blythyn (Delyn) Ysgol Wleidyddiaeth
– grymuso'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithgar yng Nghymru |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |