Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 46(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd: Penodi Prif Weithredwr a Chlerc newydd y Cynulliad Cyhoeddodd
y Llywydd fod Manon Antoniazzi wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr a Chlerc
newydd y Cynulliad. Bydd yn dechrau yn y
swydd ar ymddeoliad Claire Clancy ym mis Ebrill. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.32 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.21 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Dechreuodd yr eitem
am 15.16. Cyhoeddodd y
Llywydd ganlyniad y balot deddfwriaethol a gynhaliwyd heddiw ac y caiff Dai
Lloyd geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Ddiogelu Enwau
Lleoedd Hanesyddol Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.16 Gwnaeth Vicki Howells
ddatganiad er cof am Bernard Baldwin MBE. Gwnaeth Russell George ddatganiad yn talu teyrnged i
hanesydd adnabyddus o’r Drenewydd a Maer y Dref sydd wedi marw yn ddiweddar. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Ymchwiliadau a gwaith ymgysylltu ar gyfer y dyfodol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6191 Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd) 1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad
cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au a'r 1980au. 2. Yn nodi bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw o HIV a
Hepatitis C a gawsant wrth gael gwaed halogedig neu gynnyrch gwaed halogedig a
bod eraill yn dal i fyw gyda'r heintiau hyn. 3. Yn cydnabod bod perthnasau mewn galar yn byw gyda
chanlyniadau'r drychineb hon. 4. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis
Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu heintio gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn
nodi ymhellach nad yw'r teuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt wedi cael
atebion llawn ynglŷn â'r rhesymau pam y caniatawyd i hyn ddigwydd a'u bod
yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 NDM6191 Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au
a'r 1980au. 2. Yn nodi bod 70 o bobl
yng Nghymru wedi marw o HIV a Hepatitis C a gawsant wrth gael gwaed halogedig
neu gynnyrch gwaed halogedig a bod eraill yn dal i fyw gyda'r heintiau hyn. 3. Yn cydnabod bod
perthnasau mewn galar yn byw gyda chanlyniadau'r drychineb hon. 4. Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi ymddiheuro ym mis Mawrth 2015 i bobl a gafodd eu heintio
gan driniaeth â gwaed halogedig ac yn nodi ymhellach nad yw'r teuluoedd y mae
hyn yn effeithio arnynt, wedi cael atebion llawn ynglŷn â'r rhesymau pam y
caniatawyd i hyn ddigwydd a'u bod yn dal i ymgyrchu dros gyfiawnder. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6215 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r tueddiad rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar
feini prawf sy'n ymwneud â'r gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a'u
cynaliadwyedd. 2. Yn credu bod dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun
allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd. 3. Yn cymeradwyo gwerth yr amcanion a'r strategaethau
canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol: a) mynediad at ofod glân ac agored: b) argaeledd tai fforddiadwy; c) rheoli traffig yn effeithiol a darparu trafnidiaeth
gyhoeddus o safon uchel; d) datblygu llwybrau trafnidiaeth llesol, gan gynnwys
ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a cherdded; e) safonau uchel o ran ansawdd yr aer; f) buddsoddi yn ansawdd dylunio adeiladau cyhoeddus a
nodweddiadol; g) cynnwys dinasyddion mewn cynlluniau gwella amwynderau,
o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a h) bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio
ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen
ar gyfer datblygu economi gryfach a thecach ac yn cydnabod pwysigrwydd y
mesurau i ddatblygu economïau rhanbarthol cynaliadwy sy'n gwasanaethu pob
cymuned ledled Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM6215 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r tueddiad
rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar feini prawf sy'n ymwneud â'r gallu i fyw
ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a'u cynaliadwyedd. 2. Yn credu bod
dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant
economaidd. 3. Yn cymeradwyo gwerth
yr amcanion a'r strategaethau canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol: a) mynediad at ofod glân
ac agored: b) argaeledd tai
fforddiadwy; c) rheoli traffig yn
effeithiol a darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel; d) datblygu llwybrau
trafnidiaeth llesol, gan gynnwys ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a
cherdded; e) safonau uchel o ran
ansawdd yr aer; f) buddsoddi yn ansawdd
dylunio adeiladau cyhoeddus a nodweddiadol; g) cynnwys dinasyddion
mewn cynlluniau gwella amwynderau, o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a h) bod y cysyniad o
ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6214 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai'r tro cyntaf, a'r unig dro yn aml, y daw
cleifion i gysylltiad â'r GIG yw drwy bractis cyffredinol. 2. Yn gresynu bod practisau cyffredinol, er gwaethaf hyn,
yn cael llai nag wyth y cant o'r gyllideb iechyd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu practisau
cyffredinol drwy roi buddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, pobl a seilwaith. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o gleifion gyflyrau
cronig y gellir eu rheoli orau yn y gymuned, ac mae hyn yn galw am ofal
sylfaenol cryf, gydag ymarfer cyffredinol yn ganolog i hynny. Gwelliant 2. Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Dileu'r cyfan ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i
fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a'r ymrwymiad parhaus i
weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal
sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru. [Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3, 4, 5 a 6
yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny: Yn nodi bod cyllidebau gofal cymdeithasol wedi wynebu
pwysau ariannol sylweddol, ac yn gresynu bod rôl gofal cymdeithasol o ran
cyfrannu at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol wedi cael ei diystyru. Gwelliant 4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny: Yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y meddygon teulu yn
ystod y blynyddoedd diwethaf; yn nodi y bydd angen mwy o lawer o feddygon teulu
i gydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn gwasanaeth gofal
sylfaenol cryf; yn credu y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ategu a
chefnogi'r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan feddygon teulu, ac na ddylid eu
defnyddio i wneud y gwaith yn eu lle. Gwelliant 5. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny: Yn nodi bod llawer o feddygon teulu wedi dewis dod i
weithio yng Nghymru o'r tu allan i'r DU, ac y gallent ddewis gadael os yw'r
drwgdeimlad parhaus tuag at weithwyr mudol yn parhau. Gwelliant 6. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal
sylfaenol, gofal eilaidd, a gofal cymdeithasol yn cydweithio i gynorthwyo
cleifion i reoli eu cyflyrau yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar atal derbyniadau
ysbyty; gan gydnabod y bydd angen cynllunio hirdymor priodol ar gyfer hyn,
buddsoddi mewn seilwaith a pholisïau ehangach o du'r llywodraeth i hybu iechyd
da. Gwelliant 7. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol
perthynol i iechyd yn ei chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei
ddarparu'n effeithiol. Gwelliant 8. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad
rheolaidd ar gyfer gofal sylfaenol, gyda dangosyddion perfformiad a thargedau
yn cael eu sefydlu mewn cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6214 Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod mai'r tro cyntaf, a'r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad
â'r GIG yw drwy bractis cyffredinol. 2.
Yn gresynu bod practisau cyffredinol, er gwaethaf hyn, yn cael llai nag wyth y
cant o'r gyllideb iechyd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu practisau cyffredinol drwy roi
buddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, pobl a seilwaith.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod gan y rhan fwyaf o gleifion gyflyrau cronig y gellir eu rheoli
orau yn y gymuned, ac mae hyn yn galw am ofal sylfaenol cryf, gydag ymarfer
cyffredinol yn ganolog i hynny. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu'r
cyfan ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau
gofal sylfaenol ledled Cymru a'r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth
â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal
ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gan fod
gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3, 4, 5 a 6 eu ddad-ddethol. Gwelliant 7.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei
chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu'n effeithiol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwelliant 8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad rheolaidd ar gyfer gofal
sylfaenol, gyda dangosyddion perfformiad a thargedau yn cael eu sefydlu mewn
cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd
gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6214 Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod mai'r tro cyntaf, a'r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad
â'r GIG yw drwy bractis cyffredinol. 2.
Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn
gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a'r ymrwymiad parhaus i weithio mewn
partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i
wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru. 3.
Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei
chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu'n effeithiol.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.23 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6213
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.27 NDM6213 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Her ailgylchu i fusnesau
a thrigolion yng Nghymru wledig. |