Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 303(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 17/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau
am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.31 Gofynnwyd cwestiynau 1-6
a chwestiwn 8. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Atebodd y Dirprwy Weinidog
a’r Prif Chwip y 4 cwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn
ymwneud â’i chyfrifoldebau. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. |
|||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.40 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.01 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: TATA Steel Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.11 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.07 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.07 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyng-ffydd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.39 |
|||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020 NDM7468 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio
Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM7468 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru)
(Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) NDM7476 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2020 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2. Bil
Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (Saesneg yn unig) Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.22 NDM7476 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod Senedd Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21 NDM7443 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Hydref 2020. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; (v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a (vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r
prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7443 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Hydref 2020. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; (v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a (vi) manylion am unrhyw
newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B
ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan
Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 18.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 NDM7470 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4)
(Cymru) 2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.02 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7470 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 NDM7469 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a
Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2020. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.02 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7469 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau)
(Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||
(15 munud) |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 NDM7475 Jeremy
Miles (Castell-nedd) Cynnig bod y Senedd yn
cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud
Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r
UE) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd
(Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020. Gosodwyd
y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd
2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2. Dogfennau
Ategol Datganiad
Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.28 NDM7475 Jeremy Miles
(Castell-nedd) Cynnig bod y Senedd yn
cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud
Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r
UE) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020. Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2
Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(45 munud) |
Dadl: Adroddiad y Grwp Cynllunio Etholiadau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.37 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7467 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Grŵp
Cynllunio Etholiadau. Adroddiad y Grŵp
Cynllunio Etholiadau Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am
20.21 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd. Dechreuodd yr eitem am 20.25 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |