Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 290(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 mun) |
Datganiad gan y Prif Weinidog - Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 13.32 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.35 Gofynnwyd
y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 Gofynnwyd
y 6 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1-3 a 5 gan y Dirprwy
Weinidog Diwylliant. Chwaraeon a Thwristiaeth Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.06 Gofynnwyd
y 4 cwestiwn |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.25 Gwnaeth
Helen Mary Jones ddatganiad am Wythnos Addysg Oedolion. Am
16.27, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y
Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol NDM7388 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn
Etholiadol’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020; 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y
Pwyllgor Busnes; a 3. Yn nodi bod y
cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru)
2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.32 NDM7388 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn
Etholiadol’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020; 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y
Pwyllgor Busnes; a 3. Yn
nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac
Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran
42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd NDM7389 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 16.3: 1. Yn sefydlu Pwyllgor
y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2; ac 2. Yn nodi bod y
cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru)
2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.33 NDM7389 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 16.3: 1. Yn sefydlu Pwyllgor
y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2; ac 2. Yn nodi bod y
cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru)
2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau NDM7390 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod o’r
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.33 NDM7390 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod
o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor y Llywydd NDM7391 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18B.4: 1. Yn ethol y canlynol
yn aelodau o Bwyllgor y Llywydd: a) Y Dirprwy Lywydd yn
Gadeirydd y Pwyllgor; b) Llyr Gruffydd,
(cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); a c) Rhianon Passmore
(Llafur Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Dai Lloyd (Plaid Cymru), a
David Rowlands (Plaid Brexit). 2. Yn nodi bod y
cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru)
2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Deddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.34 NDM7391 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18B.4: 1. Yn ethol y canlynol
yn aelodau o Bwyllgor y Llywydd: a) Y Dirprwy Lywydd yn
Gadeirydd y Pwyllgor; b) Llyr Gruffydd,
(cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); ac c) Rhianon Passmore
(Llafur Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Dai Lloyd (Plaid Cymru), a
David Rowlands (Plaid Brexit). 2. Yn nodi bod y
cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru)
2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf
Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol NDM7385 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol,
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020. Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 NDM7385 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol,
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg Uwch NDM7387 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd
addysg uwch ac addysg bellach i Gymru a'i heconomi. 2. Yn credu bod
myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu
haddysg uwch ac addysg bellach. 3. Yn gresynu at
effaith pandemig y coronafeirws ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar
gyrsiau. 4. Yn croesawu'r
adnoddau ariannol ychwanegol a ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w
cefnogi drwy'r pandemig. 5. Yn nodi na fu
gostyngiad yn y ffioedd a delir gan fyfyrwyr i adlewyrchu effaith andwyol y
pandemig ar eu hastudiaethau. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda
cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu effaith pandemig y
coronafeirws ar eu cyrsiau; b) sicrhau bod
myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i gael mynediad at ddysgu naill ai drwy fod yn
bresennol neu, os bydd cyfyngiadau COVID-19 na ellir eu hosgoi, drwy fwy o
ffrydio byw; ac c) mynd i'r afael â
phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn
perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at ofynion mynediad
ar gyfer colegau a phrifysgolion. Gwelliant 1 Siân Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 4 ac
ailrifo'n unol â hynny. Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 5 a 6 a
rhoi yn eu lle: Yn croesawu ymdrechion
myfyrwyr, colegau a phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn
effeithiol mewn amgylchiadau heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am
eu hymdrechion. Yn nodi gwaith helaeth
colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu,
lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth
ar-lein. Yn nodi’r canllawiau a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i
baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel. Os derbynnir Gwelliant
2, bydd Gwellianau 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 Siân
Gwenllian (Arfon) Dileu is-bwynt 6(a) a
rhoi yn ei le: sicrhau bod gan y
sector addysg uwch ddigon o adnoddau i alluogi sefydliadau i barhau i gynnal
safonau a pharhau i ehangu mynediad; Gwelliant 4 Siân
Gwenllian (Arfon) Cynnwys is-bwynt 6(b)
newydd ac ailrifo'n unol â hynny: gweithio gyda'r
sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i sicrhau bod ganddynt
adnoddau digonol a chynaliadwy i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl, yn
enwedig i ddysgwyr difreintiedig, ar yr adeg heriol hon; Canllawiau ar
weithredu’n ddiogel mewn addysg ôl-16 o fis Medi 2020 ymlaen Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.08 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7387 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg
bellach i Gymru a'i heconomi. 2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian
yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach. 3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws
ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau. 4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a
ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig. 5. Yn nodi na fu gostyngiad yn y ffioedd a delir
gan fyfyrwyr i adlewyrchu effaith andwyol y pandemig ar eu hastudiaethau. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i
sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws ar eu
cyrsiau; b) sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i
gael mynediad at ddysgu naill ai drwy fod yn bresennol neu, os bydd cyfyngiadau
COVID-19 na ellir eu hosgoi, drwy fwy o ffrydio byw; ac c) mynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg
bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n
cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sián Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 4 ac ailrifo'n unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle: Yn nodi gwaith helaeth
colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu,
lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth
ar-lein. Yn nodi’r canllawiau a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i
baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel. Canllawiau ar weithredu’n
ddiogel mewn addysg ôl-16 o fis Medi 2020 ymlaen Canllawiau ar addysg
uwch: Diogelu Cymru (COVID-19) Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod Gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7387 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg
bellach i Gymru a'i heconomi. 2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am
arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg
bellach. 3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws
ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau. 4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a
ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig. 5. Yn croesawu ymdrechion myfyrwyr, colegau a
phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchiadau
heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion. 6. Yn nodi gwaith helaeth colegau a phrifysgolion
i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu, lle nad oedd modd osgoi
cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth ar-lein. 7. Yn nodi’r canllawiau a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i baratoi ar gyfer
y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel. Canllawiau ar weithredu’n ddiogel mewn addysg ôl-16 o fis Medi 2020
ymlaen Canllawiau ar addysg uwch: Diogelu Cymru (COVID-19)
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ail Gartrefi NDM7386 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn
benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at
amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny. 2. Yn croesawu’r camau
y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai
(Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi fel un dull o
geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno
mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth
ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: a) defnyddio’r
gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn
brif gartref i fod yn ail gartref; b) galluogi cyflwyno
cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail
gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn anghynaladwy; c) diweddaru’r
gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail
gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd; d) dyblu uchafswm
premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i
atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio
newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi
mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol
gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol; e) dyblu cyfradd uwch
y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio
atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n
prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau; f) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad
leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amodau marchnad leol arnynt; g) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w
datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a h) edrych o’r newydd
ar y diffiniad dŷ fforddiadwy. Gwelliant 1 – Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl
leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: a) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol,
gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wed'i diwygio ac archwilio'r
opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;; b) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w
datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac c) egluro beth yw
cartref fforddiadwy. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa
Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i
gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethu annomestig. Os
derbynnir Gwelliant 1, caiff Gwelliannau 2 a 3 eu ddad-ddethol Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod her ail
gartrefi - a thai gwag - i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau
yng Nghymru. 2. Yn croesawu ymrwymiad
hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan
gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf. 3. Yn croesawu, er bod
y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n
cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i
ddiwallu'r angen am dai lleol. 4. Yn nodi mai Cymru
yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at
100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd
wedi bod yn wag am gyfnod hir. 5. Yn nodi ymhellach
na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn
wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety
gwyliau na phrynwyr ail gartrefi. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng
Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion
unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu
cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio,
rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad
atynt. Os derbynnir Gwelliant
2, caiff Gwelliant 3 ei dad-ddethol Gwelliant 3 Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Yn is-bwynt 3(g), ar
ôl 'chymdeithasau tai' ychwanegu: ', drwy brynu gorfodol
os oes angen,' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7386
Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn
benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at
amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny. 2. Yn croesawu’r camau
y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai
(Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth cyngor ar ail gartrefi fel un dull o
geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno
mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth
ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: a) defnyddio’r
gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd ty annedd o fod yn brif
gartref i fod yn ail gartref; b) galluogi cyflwyno
cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail
gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn
anghynaladwy; c) diweddaru’r
gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail
gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd; d) dyblu uchafswm
premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i
atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio
newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi
mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol
gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol; e) dyblu cyfradd uwch
y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio
atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n
prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau; f) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad
leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amod marchnad leol
arnynt; g) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w
datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a h) edrych o’r newydd
ar y diffiniad o dy fforddiadwy.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod yr
argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl
leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau
fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: a) cymryd camau
cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol,
gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wedi'i diwygio ac archwilio'r
opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;; b) annog a rhoi
blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu
er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac c) egluro beth yw
cartref fforddiadwy. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa
Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i
gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethu annomestig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod her ail
gartrefi - a thai gwag - i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau
yng Nghymru. 2. Yn croesawu
ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd
uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy
cryf. 3. Yn croesawu, er bod
y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth
Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn
helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol. 4. Yn nodi mai Cymru
yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at
100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd
wedi bod yn wag am gyfnod hir. 5. Yn nodi ymhellach
na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn
wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau
na phrynwyr ail gartrefi. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng
Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion
unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu
cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio,
rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad
atynt. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gan fod Gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei
ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7386 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod her ail gartrefi - a thai gwag - i'r
cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru. 2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i
ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel
sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf. 3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar
adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000
erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol. 4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae
awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd
safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod
hir. 5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu
gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr
prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr
o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn
angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn
enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath
ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai
fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog
34.14D, am 19.09, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl
technegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 19.18 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7377 Mark
Isherwood (Gogledd
Cymru) Adeiladu'r
sylfeini ar gyfer newid: effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol
Llywodraeth Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.27 NDM7377 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Adeiladu'r
sylfeini ar gyfer newid: effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol
Llywodraeth Cymru |