Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 278(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/05/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd yr eitem am 13.32 Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r
Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy
gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â
thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r
Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys -
nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn,
fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn
cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y
ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd
hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y
Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.32 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.33 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Gweinidog Addysg Helen Mary Jones (Canolbarth a
Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am
ddyfodol y sector addysg uwch, yn dilyn adroddiad Canolfan Llywodraethiant
Cymru am effaith ariannol Covid-19 ar brifysgolion yng Nghymru? Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth
Leol Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
cymorth a'r adnoddau fydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r capasiti
i olrhain cysylltiadau yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer
codi'r cyfyngiadau presennol? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.17 Gofyn i’r Gweinidog
Addysg Helen Mary Jones
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y sector addysg uwch, yn dilyn adroddiad
Canolfan Llywodraethiant Cymru am effaith ariannol Covid-19 ar brifysgolion yng
Nghymru? Gofyn i’r Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a'r adnoddau
fydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r capasiti i olrhain
cysylltiadau yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer codi'r
cyfyngiadau presennol? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.32 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog ( 5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.25 NNDM7325 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16
sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11
yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol,
er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM7326 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 20 Mai 2020. Cynhaliwyd pleidlais
at y cynnig. Fel y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau
heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Oherwydd y cafodd y
cynnig ei gefnogi gan ddau draean o’r Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd
y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl - COVID19 - Llacio'r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a'n Heconomi: Dal i Drafod NNDM7326 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cyhoeddi Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi: Dal i
Drafod, sy’n disgrifio sut y gall Cymru ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn raddol 2.
Yn cytuno y dylai iechyd y cyhoedd fod yn ystyriaeth flaenllaw mewn unrhyw
benderfyniadau ynghylch pryd a sut y caiff y rheoliadau ynghylch aros gartref
gael eu llacio 3.
Yn diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus er mwyn lleihau
lledaeniad y coronafeirws 4.
Yn canmol gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr hanfodol ar draws Cymru yn ystod
y pandemig. Llacio’r
Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â llywodraethau eraill yn y
Deyrnas Unedig fel rhan o ddull cydlynol pedair cenedl o godi'r cyfyngiadau
symud. Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac yn estyn ei
chydymdeimlad dwysaf â'r rhai y mae profedigaeth yn effeithio arnynt. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas
a’n Heconomi, i gynnwys: a)
amserlenni dangosol ar gyfer codi'r mesurau cyfyngiadau symud; b)
manylion y cerrig milltir a'r targedau sydd i'w cyflawni cyn codi pob mesur; c)
sefydlu tasgluoedd mewn adrannau gweinidogol allweddol i oruchwylio'r gwaith o
weithredu'r cynllun; a d)
cynllun ariannol priodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun. Gwelliant 4 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cefnogi'r alwad gan bedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Cymru i'r Prif Weinidog sicrhau bod y dirwyon uchaf y gall yr heddlu eu dyroddi
am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau iechyd cyhoeddus, yn cael eu cynyddu
er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n gadarn cyhyd ag y maent ar
waith. Gwelliant 5 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu ei bod yn angenrheidiol sicrhau bod system gadarn o brofi ac olrhain
cysylltiadau ar waith er mwyn codi'r cyfyngiadau'n sylweddol. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni
ddewiswyd gwelliannau 6, 7 ac 8 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 9 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm sylfaenol
cyffredinol ac i archwilio pob llwybr arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gwaelodlin o gymorth ariannol ar gael i bobl Cymru drwy gydol y
cyfnodau o gyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.40 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Fel
y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog
34.11. Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 -
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â llywodraethau eraill yn y
Deyrnas Unedig fel rhan o ddull cydlynol pedair cenedl o godi'r cyfyngiadau
symud. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gwelliant
2 -
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac yn estyn ei
chydymdeimlad dwysaf â'r rhai y mae profedigaeth yn effeithio arnynt. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas
a’n Heconomi, i gynnwys: a)
amserlenni dangosol ar gyfer codi'r mesurau cyfyngiadau symud; b)
manylion y cerrig milltir a'r targedau sydd i'w cyflawni cyn codi pob mesur; c)
sefydlu tasgluoedd mewn adrannau gweinidogol allweddol i oruchwylio'r gwaith o
weithredu'r cynllun; a d)
cynllun ariannol priodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynllun. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 -
Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cefnogi'r alwad gan bedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Cymru i'r Prif Weinidog sicrhau bod y dirwyon uchaf y gall yr heddlu eu dyroddi
am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau iechyd cyhoeddus, yn cael eu cynyddu
er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n gadarn cyhyd ag y maent ar
waith. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant
4. Gwelliant
5 -
Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu ei bod yn angenrheidiol sicrhau bod system gadarn o brofi ac olrhain
cysylltiadau ar waith er mwyn codi'r cyfyngiadau'n sylweddol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant
5. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni
ddewiswyd gwelliannau 6, 7 ac 8 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 9 - Sian Gwenllian (Arfon) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm sylfaenol
cyffredinol ac i archwilio pob llwybr arall sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gwaelodlin o gymorth ariannol ar gael i bobl Cymru drwy gydol y
cyfnodau o gyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant
9. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NNDM7326 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cyhoeddi Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi: Dal i
Drafod, sy’n disgrifio sut y gall Cymru ddechrau llacio’r cyfyngiadau yn raddol 2.
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â llywodraethau eraill yn y
Deyrnas Unedig fel rhan o ddull cydlynol pedair cenedl o godi'r cyfyngiadau
symud. 3.
Yn cytuno y dylai iechyd y cyhoedd fod yn ystyriaeth flaenllaw mewn unrhyw
benderfyniadau ynghylch pryd a sut y caiff y rheoliadau ynghylch aros gartref
gael eu llacio 4.
Yn cydnabod y rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac yn estyn
ei chydymdeimlad dwysaf â'r rhai y mae profedigaeth yn effeithio arnynt. 5.
Yn diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus er mwyn lleihau
lledaeniad y coronafeirws 6.
Yn canmol gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr hanfodol ar draws Cymru yn ystod
y pandemig. 7.
Yn cefnogi'r alwad gan bedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynwyr yr Heddlu a
Throseddu Cymru i'r Prif Weinidog sicrhau bod y dirwyon uchaf y gall yr heddlu
eu dyroddi am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau iechyd cyhoeddus, yn cael
eu cynyddu er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau yn cael eu gorfodi'n gadarn cyhyd ag
y maent ar waith. 8.
Yn credu ei bod yn angenrheidiol sicrhau bod system gadarn o brofi ac olrhain
cysylltiadau ar waith er mwyn codi'r cyfyngiadau'n sylweddol. 9.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno incwm
sylfaenol cyffredinol ac i archwilio pob llwybr arall sydd ar gael i Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod gwaelodlin o gymorth ariannol ar gael i bobl Cymru drwy
gydol y cyfnodau o gyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi. Canlyniad y bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd
oedd:
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) - Tynnwyd yn ôl |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cytunodd y Senedd, o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 NDM7322 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.26 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Fe
y nodir ar yr agenda, cynhaliwyd y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog
34.11. Cynhaliwyd
y pleidleisiau trwy alw’r gofrestr. NDM7322 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ebrill 2020. Fel y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau
heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 NDM7323 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2020. Dogfennau Ategol Cofnodion: Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
y pleidleisiau trwy alw’r gofrestr. NDM7323 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 3) 2020 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mai 2020. Fel y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau
heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020 NDM7324 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o
Gnydau) (Cymru) 2020 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2020. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.59 NDM7324 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y
Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau
Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau)
(Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill
2020. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.01 Fel
y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog
34.11. Enwebodd
pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un
nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp
gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o
bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau
eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu
grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |