Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 274 (v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
|
Dechreuodd
yr eitem am 13.30
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y
Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion
Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dywedodd
y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau
Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd
y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd
rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y
cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r
trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn
ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r
cyfarfod hwn.
|
1. |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem
am 13.32
|
2. |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (Covid-19)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem
am 13.34
|
3. |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (Covid-19)
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem
am 14.37
|
4. |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19)
Cofnodion:
Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd am un funud am 15.51
oherwydd diffyg ar y meicroffonau, cyn ailymgynnull
Dechreuodd
yr eitem am 15.52
|
|
Pwyntiau o Drefn
Pwynt
o Drefn 1
Cododd
Neil McEvoy bwynt o drefn ynghylch y posibilrwydd o ddychwelyd at yr agenda
fusnes arferol ar y sail fod y Cyfarfod Llawn bellach yn cael ei gynnal ar
ffurf sesiynau rhithwir ac nad ydynt yn peri risg i iechyd cyhoeddus. Dywedodd
y Dirprwy Lywydd mai barn unfrydol y Pwyllgor Busnes fu y dylai busnes y
Cyfarfod Llawn ganolbwyntio ar glywed datganiadau yn ymwneud â’r argyfwng iechyd cyhoeddus
rydym yn ei wynebu, ac i’r Aelodau holi Gweinidogion ar y datganiadau hynny.
Fodd bynnag, dywedodd y Dirprwy Lywydd y bydd y Pwyllgor Busnes yn adolygu’r
penderfyniadau hynny’n wythnosol.
Pwynt
o Drefn 2
Cododd
Sian Gwenllian bwynt o drefn ynghylch sylwadau’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol oddi ar gamera, tuag at gyd-Aelod a oedd wedi gofyn
cwestiynau iddo yn ystod ei ddatganiad. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n
adolygu’r cofnod ac yn dychwelyd at y mater.
|
5. |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 - gohiriwyd tan 29 Ebrill 2020
|