Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 173(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ
a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 O dan Reol Sefydlog
12.58, roedd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Gofynnwyd cwestiynau 1-3
a 5-8. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.15 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf am Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.14 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru" NDM6873 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r
astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru –
Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth
Ddichonoldeb”. 2. Yn croesawu’r
dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r
heriau sydd ynghlwm wrthynt. 3. Yn cydnabod bod
gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch
camau gweithredu yn y dyfodol. Astudiaeth
Ddichonoldeb Amgueddfa Chwaraeron i Gymru Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwyntiau 2 a
3 a rhoi yn eu lle: Yn cydnabod gwerth
y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu
cyhoeddus helaeth; Yn croesawu'r
argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth
chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu. Yn credu bod yn
rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu
rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ôl
pwynt 2: Yn croesawu’r
argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 2: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel
Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd,
gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes
i Gymru. Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 3: Yn croesawu’r
argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol
ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru. Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 3: Yn galw ar i Lywodraeth
Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa
Chwaraeon i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed
genedlaethol yn Wrecsam Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6873 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes
Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru
– Astudiaeth Ddichonoldeb”. 2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd
â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt. 3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau
gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod gwerth y
dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu
cyhoeddus helaeth; Yn croesawu'r
argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth
chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu. Yn credu bod yn rhaid i
benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth
ffres ac sy'n arwain y byd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ôl pwynt 2: Yn croesawu’r argymhelliad
y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf
Gyfoes Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan
gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i
Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3: Yn croesawu’r
argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol
ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3: Yn galw ar i Lywodraeth
Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon
i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed
genedlaethol yn Wrecsam Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6873 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar “Oriel Gelf Gyfoes
Genedlaethol i Gymru – Astudiaeth Ddichonoldeb” ac “Amgueddfa Chwaraeon i Gymru
– Astudiaeth Ddichonoldeb”. 2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd
â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt. 3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau
gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol. 4. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed
Genedlaethol yn Wrecsam. 5. Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys
cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Awdurdodau Lleol NDM6875 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y
rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau
cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr
heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) adolygu a
chynyddu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20; a b) comisiynu
adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl
2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r pecyn
o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal
refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed
flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU. Yn nodi bod
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol
ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Yn nodi bod y
setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio
bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan
oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i
wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ôl pwynt 2: Yn gresynu bod y
cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a
gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o
ddatganiad hydref Llywodraeth y DU. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: parhau i chwilio am
ffyrdd i ddarparu rhagor o arian ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru ar gyfer
2019/20. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.30 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6875 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth
ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng
Nghymru ar hyn o bryd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) adolygu a chynyddu'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019-20; a b) comisiynu adolygiad annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol
Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl 2 a
rhoi yn ei le: Yn croesawu’r pecyn o
gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i wella’r grant cynnal
refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau wrth inni wynebu nawfed
flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU. Yn nodi bod Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n
dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith cyni yng Nghymru. Yn nodi bod y setliad
llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy fformiwla gan ddefnyddio bron i 70
o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt gyda llywodraeth leol, dan
oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig ar yr angen cymharol i
wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2: Yn gresynu bod y cyllid
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd
yn ddiweddar ddim ond ar gael o ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad
hydref Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6875 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol wrth
ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. 2. Yn cydnabod yr heriau ariannu y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu yng
Nghymru ar hyn o bryd. 3. Yn gresynu bod y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
llywodraeth leol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ddim ond ar gael o
ganlyniad i'r arian canlyniadol o ddatganiad hydref Llywodraeth y DU. 4. Yn croesawu’r pecyn o gynigion ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth
leol i wella’r grant cynnal refeniw yn 2019-20, er mwyn mynd i’r afael â’r
pwysau wrth inni wynebu nawfed flwyddyn polisi cyni Llywodraeth y DU. 5. Yn nodi bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n cefnogi’r cyhoeddiad
fel cam arwyddocaol ymlaen sy’n dangos ymdrech ar y cyd i wrthbwyso effaith
cyni yng Nghymru. 6. Yn nodi bod y setliad llywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu drwy
fformiwla gan ddefnyddio bron i 70 o ddangosyddion penodol, y cytunwyd arnynt
gyda llywodraeth leol, dan oruchwyliaeth arbenigwyr annibynnol, ac yn seiliedig
ar yr angen cymharol i wario a’r gallu cymharol i godi incwm yn lleol.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Tlodi NDM6874 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r datganiad
gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol
yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig. 2. Yn gresynu at
ganfyddiadau'r adroddiad: a) bod newidiadau i
nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar fenywod, plant a phobl
anabl; b) bod gan Gymru'r
gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) nad oes gan
Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â thlodi, heb ddangosyddion
a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith; d) bod anallu Llywodraeth
Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol, yn wahanol i
Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol sydd y tu ôl i'r
cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; ac e) bod tlodi yn
ddewis gwleidyddol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ceisio'r pwerau
i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd cynhwysol; a b) cyhoeddi cynllun
cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys dangosyddion a
thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith. Datganiad
ar ymweliad â'r Deyrnas Unedig, gan yr Athro Philip Alson, Rapporteur Arbennig
y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau
y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi
credyd cynhwysol ar waith. 2. Yn nodi, yn ôl
canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n
Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill
Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul
awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â
thlodi sy’n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd
ac effaith. Y
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - 'A yw Cymru’n Decach?’ [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn derbyn
canfyddiadau’r adroddiad: a) bod costau cyni
wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig,
plant, rhieni sengl a phobl anabl; b) mai Cymru sydd
â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) bod y gweinyddiaethau
datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf
dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a d) ei bod yn
"warthus" bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu
pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn croesawu ffocws
Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas
Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6874 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar
hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig. 2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r adroddiad: a) bod newidiadau i nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar
fenywod, plant a phobl anabl; b) bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) nad oes gan Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â
thlodi, heb ddangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac
effaith; d) bod anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu
credyd cynhwysol, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol
sydd y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; a e) bod tlodi yn ddewis gwleidyddol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ceisio'r pwerau i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd
cynhwysol; a b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n
cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau y mae
Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi
credyd cynhwysol ar waith. 2. Yn nodi, yn ôl
canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n
Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill
Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul
awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi sy’n
cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn derbyn canfyddiadau’r
adroddiad: a) bod costau cyni
wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig,
plant, rhieni sengl a phobl anabl; b) mai Cymru sydd â’r
gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) bod y gweinyddiaethau
datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf
dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a d) ei bod yn
"warthus" bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu
pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn croesawu ffocws
Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas
Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6874 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar
hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig. 2. Yn derbyn
canfyddiadau’r adroddiad: a) bod costau cyni
wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig,
plant, rhieni sengl a phobl anabl; b) mai Cymru sydd â’r
gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig; c) bod y gweinyddiaethau
datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf
dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a d) ei bod yn
"warthus" bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu
pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 3. Yn croesawu ffocws
Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas
Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.37 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |