Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 171(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.26

(0 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol - Gohiriwyd tan 11 Rhagfyr 2018

Cofnodion:

Gohiriwyd tan 11 Rhagfyr 2018

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Cytundeb Drafft ar Ymadawiad y DU â’r UE

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.56

(30 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

(30 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.19

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

(60 munud)

8.

Dadl: Rheoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

NDM6867 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2018.  

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Datganiad ynghylch Rheoliadau Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM6867 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2018. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

8

48

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

9.

Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru?

NDM6866 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

Dogfennau Ategol

Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o gyflawni system ynni carbon isel.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cymorth cymunedol pan yn cynllunio prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ac yn gresynu at ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â datblygu Fferm Wynt Hendy nad yw'n parchu'r egwyddor bwysig hon ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn.

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn galw am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn.

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn galw am sefydlu Ynni Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gyda ffocws cryf ar ynni cymunedol a pherchnogaeth y cyhoedd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.14

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

8

40

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

9

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cymorth cymunedol pan yn cynllunio prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ac yn gresynu at ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â datblygu Fferm Wynt Hendy nad yw'n parchu'r egwyddor bwysig hon ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

36

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

39

49

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu Ynni Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gyda ffocws cryf ar ynni cymunedol a pherchnogaeth y cyhoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6866 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac yn cymeradwyo sylwadau'r Prif Weinidog ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

2

10

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(30 munud)

10.

Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.00

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.32

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: