Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 48(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 3. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau
2 - 11. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys I’r
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau
offthalmoleg yng Nghymru? EAQ(5)0116(HWS) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Ymchwiliadau'r Pwyllgor Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.10 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17 NDM6220 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 NDM6220 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y
gaeaf 2016-17, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016. Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2017. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn
chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy. 2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad
hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na
chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y nosweithiau o
ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011. 3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan
hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i ofal
iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau
ysbytai cymuned ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan
wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl
i'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai
ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y
gymuned ehangach. Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a
all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau
waethygu neu wella. Yn croesawu: a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull
gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru; b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a
wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal
cymdeithasol newydd ar draws Cymru. ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.23 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol
da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy. 2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud
cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal
cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn
nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011. 3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae
rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i
ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned ac
archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan wasanaethau gofal
iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl
i'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai
ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y
gymuned ehangach. Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a
all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau
waethygu neu wella. Yn croesawu: a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull
gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru; b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a
wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal
cymdeithasol newydd ar draws Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol
da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau'r
galw diangen am ofal cymdeithasol. 2. Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr
di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol. 3. Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y
gallai ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac
yn y gymuned ehangach. 4. Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o
leoliadau a all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i
gyflyrau waethygu neu wella. 5. Yn croesawu: a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull
gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru; b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a
wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal
cymdeithasol newydd ar draws Cymru. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant
gofalwyr.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6221 Nick Ramsay (Mynwy): Taro'r Fargen Ddinesig – y camau nesaf i
Brifddinas-Ranbarth Caerdydd |