Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 10(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 29/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 6 ccwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6026 David
Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau dulliau gweithio rhwng adrannau i
wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Cefnogir gan: Lynne Neagle (Torfaen) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.18 NDM6026 David Melding (Canol De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau dulliau gweithio rhwng
adrannau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Cefnogir
gan: Lynne Neagle (Torfaen) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6052 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y dylai Bil Cymru
wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais
sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i Senedd Ewrop a Thŷ'r
Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol. Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth ar ôl
"Cynulliad Cenedlaethol Cymru i" ac yn ei le rhoi "benderfynu ar
drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol." Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.09 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6052 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru
i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i
Senedd Ewrop a Thŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar
gyfer pob safbwynt wleidyddol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru i" ac yn ei le rhoi
"benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y
dyfodol." Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6052 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol
Cymru i benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y
dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6053 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn credu y dylai: (a) egwyddorion
llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru; (b) y Cod Gweinidogol
gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo
ganddo; ac (c) dyfarnwr annibynnol
gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r Cod. 'Cod
Gweinidogol Llywodraeth Cymru - Mai 2016' Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn nodi ymrwymiad gan
Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a'r modd
y mae'n gweithredu. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Yn credu y byddai bod yn
agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gwella drwy
sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd
Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Cymraeg,
yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth
Cymru. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd
y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri'r Cod Gweinidogol
heb gosb. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6053 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn
credu y dylai: (a)
egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb
Llywodraeth Cymru; (b) y
Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei
gymeradwyo ganddo; ac (c)
dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o
dorri'r Cod.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn
nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y
Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Yn credu
y byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei
gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant,
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd
y Cymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na
Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym
maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi
gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6053 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) 1. Yn
credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes
cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru; 2. Yn
nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y
Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu. 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym
maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi
gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6050 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y rhan y mae
llygredd aer yn ei chwarae yng nghanlyniadau iechyd cymunedau ledled Cymru. 2. Yn nodi bod Sefydliad
Iechyd y Byd wedi canfod bod llygredd gronynnol wedi codi wyth y cant yn
fyd-eang yn y pum mlynedd diwethaf, gydag arbenigwyr yn y DU yn credu bod tua
29,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â llygredd aer. 3. Yn mynegi pryder
ynghylch lefel y llygredd aer yng Nghymru, gan nodi mai yng Nghrymlyn, yng
Nghaerffili, y mae'r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid wedi'u cofnodi y tu
allan i Lundain, a bod tystiolaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriad gan
GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 wedi canfod cysylltiad uniongyrchol
rhwng llygredd aer a chynnydd mewn achosion o glefyd anadlol. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol, mewn ymgynghoriad â
rhanddeiliaid, i leihau allyriadau llygryddion aer. 'World
Health Organisation Global Urban Ambient Air Pollution Database'
[Saesneg yn unig] Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Gwelliant 2 - Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.47 NDM6050 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
cydnabod y rhan y mae llygredd aer yn ei chwarae yng nghanlyniadau iechyd cymunedau
ledled Cymru. 2. Yn
nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi canfod bod llygredd gronynnol wedi codi
wyth y cant yn fyd-eang yn y pum mlynedd diwethaf, gydag arbenigwyr yn y DU yn
credu bod tua 29,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â llygredd aer. 3. Yn
mynegi pryder ynghylch lefel y llygredd aer yng Nghymru, gan nodi mai yng
Nghrymlyn, yng Nghaerffili, y mae'r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid wedi'u
cofnodi y tu allan i Lundain, a bod tystiolaeth a ddarparwyd mewn ymateb i
ymgynghoriad gan GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 wedi canfod cysylltiad
uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn achosion o glefyd anadlol. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol,
mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, i leihau allyriadau llygryddion aer. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd: Ethol cadeiryddion pwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 16.56 Cyhoeddodd y Llywydd
ganlyniadau etholiad cadeiryddion y pwyllgorau yn y drefn a ganlyn: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cyhoeddodd
y Llywydd fod Lynne Neagle wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Cyhoeddodd
y Llywydd fod Russell George wedi ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Gan fod John Griffiths wedi derbyn mwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf yn y balot, cyhoeddodd y Llywydd ei fod wedi ei
ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Cyhoeddodd y Llywydd fod Dai Lloyd wedi ei ethol yn
Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon. Y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Gan fod Nick Ramsay wedi derbyn mwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf yn y balot, cyhoeddodd y Llywydd ei fod wedi ei
ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 NDM6051 Rhianon Passmore (Islwyn) Ysgolion
yr 21ain Ganrif: Mwy na rhaglen adeiladu. |