R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016? OAQ(5)0009(FLG)
2. Hefin David (Caerffili): Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith a gaiff trefniadau pensiwn gwladol trosiannol Llywodraeth y DU ar fenywod a anwyd ar 6 Ebrill 1951, neu ar ôl hynny? OAQ(5)0011(FLG)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer hybu cydraddoldeb yng Nghymru? OAQ(5)0014(FLG)
4. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa ddefnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fenthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop? OAQ(5)0004(FLG)
5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy lywodraeth leol? OAQ(5)0003(FLG)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o Wybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID) gan awdurdodau lleol ar gyfer prynu? OAQ(5)0001(FLG)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran gweithredu'r Fargen Ddinesig? OAQ(5)0015(FLG)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision Bargen Ddinesig Caerdydd y tu allan i Gaerdydd? OAQ(5)0005(FLG)
9. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â'r amserlen ar gyfer diwygio awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(5)0017(FLG)W
10. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017/18? OAQ(5)0010(FLG)
11. Neil McEvoy (Canol De Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Chyngor Caerdydd ynghylch Deddf Llesiant Llywodraethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0013(FLG)
12. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb cyffredinol i'r portffolio Economi a Seilwaith? OAQ(5)0006(FLG)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith yn Sir Benfro? OAQ(5)0002(FLG)
14. Jeremy Miles (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog amlinellu manteision Bargen Ddinesig Bae Abertawe i Gastell-nedd? OAQ(5)0012(FLG)
15. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ystyried diwygio ariannu llywodraeth leol? OAQ(5)0008(FLG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.