Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau buddiant Cofnodion: Ymddiheuriadau:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol i’r
cyfarfod. 1.2
Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cofnodion cyfarfod 9 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion a gododd Cofnodion: 2.1
Cytunwyd ar y
cofnodion a rhoddodd swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu
sydd heb eu cymryd: ·
Gwiriadau
ariannol o ran caffael (cam gweithredu 3.17) – ymhellach at y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd ar
20 Mehefin 2014, rhoddodd Nicola Callow wybod i’r Pwyllgor fod gwiriadau
caffael yn digwydd ar lefel uchel, gan ddefnyddio adroddiadau statws credyd fel
y rhai a ddarperir gan Dun & Bradstreet.
·
Adolygu
polisïau cyfrifyddu (cam gweithredu 5.7) –
cafodd hyn ei nodi yn y flaenraglen waith, a gofynnodd y Pwyllgor i Nicola
gynhyrchu llinell amser ar gyfer y polisïau cyfrifyddu a chadarnhau gyda’r tîm
clercio dyddiad addas ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Pwyllgor. ·
Camau
gweithredu mewn ymateb i’r arolwg o effeithiolrwydd (cam gweithredu 5.10) – byddai’r tîm clercio yn dosbarthu cynllun
gweithredu drafft er mwyn i aelodau’r Pwyllgor roi sylwadau arno. ·
Treuliau
aelodau ACARAC (cam gweithredu 6.1) – Cadarnhaodd Nicola nad oedd unrhyw reswm statudol
dros ddatgelu treuliau aelodau ACARAC yn y Cyfrifon Blynyddol. ·
Parhad
busnes (camau gweithredu 3.4 a 3.11) –
Cytunodd aelodau’r Pwyllgor y dylid uno’r ddau gam gweithredu a bod y wybodaeth
ddiweddaraf yn cael ei rhoi yn yr hydref.
Camau Gweithredu -
Nicola i gynhyrchu llinell amser ar gyfer polisïau
cyfrifyddu. |
|
Adroddiad Gweithgarwch Archwilio Mewnol Cofnodion: 3.1
Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor
ar lafar. Roedd yr adroddiadau archwilio
Rheoli Risg a Llywodraethu Gwybodaeth wedi’u cwblhau ers mis Mehefin, ond
roeddent yn aros i gael eu clirio.
Cytunodd y Pwyllgor fod yr adroddiadau hyn ac adroddiadau eraill yn cael
eu dosbarthu yn ystod toriad yr haf, ynghyd â’r archwiliad Recriwtio, a oedd
wedi ennyn llawer o ddiddordeb ar draws y sefydliad. Roedd yr archwiliad Cydraddoldeb
hefyd wedi cael ei gwmpasu a byddai gwaith yn dechrau cyn bo hir. 3.2
Roedd wedi bod yng nghyfarfod Comisiwn y Cynulliad ar 18
Mehefin, a chyflwynodd ei adroddiad ar effeithiolrwydd y Comisiwn. Cafodd yr holl argymhellion eu derbyn, a,
dros yr wythnosau nesaf, byddai’n cwrdd â’r Ysgrifenyddiaeth i drafod cynllun
gweithredu. Aeth ymlaen i dynnu sylw at
rai canfyddiadau allweddol yn ei adroddiad, gan gynnwys yr heriau effeithiol yr
oeddent yn eu nodi o ran rhaglen TGCh y Dyfodol a’r prosiect Cyfieithu
Peirianyddol, ond nododd y gallai’r broses o gyfathrebu’r canfyddiadau hyn o
fewn y sefydliad gael ei gwella. 3.3
Ar 18 Gorffennaf, byddai Gareth yn cynnal Fforwm
rhyng-Seneddol Penaethiaid Archwilio Mewnol gyda’i gymheiriaid o bob rhan o’r
DU. Byddai’n adrodd ar hyn yn y cyfarfod
ym mis Tachwedd. |
|
Adroddiad blynyddol a chyfrifon Cofnodion: 4.1
Cafodd adroddiad blynyddol drafft ei drafod yn y cyfarfod
ym mis Mehefin ac roedd sylwadau wedi’u cyflwyno i Nicola. Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm am y ddogfen
wedi’i diweddaru. 4.2
Rhoddodd Nicola Callow gyflwyniad byr i’r Cyfrifon
Blynyddol a chadarnhaodd yr alldro adnoddau terfynol o £34,000 yn llai na
chyfanswm y gyllideb awdurdodedig. Roedd
y prif newidiadau i’r Datganiad o Gyfrifon yn ymwneud â dileu dibrisiant i’r
cronfeydd wrth gefn o ganlyniad i’r ailbrisio.
Cadarnhaodd Nicola y newidiadau cyfrifyddu sy’n deillio o’r ailbrisio o
dan sylw yn dileu’r dibrisiant i’r gronfa wrth gefn, yn y bôn yn gosod y
dibrisiant ar gyfer adeiladau wedi’u hailbrisio i sero. Roedd hyn o ganlyniad i ddilyn y broses
gyfrifyddu cost hanesyddol a addaswyd, yn ôl cyfarwyddyd gan Drysorlys Ei
Mawrhydi. 4.3
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y rhaglen TGCh y Dyfodol
wedi cael effaith sylweddol ar y gofrestr asedau, ond cadarnhaodd Nicola nad
oedd hynny wedi digwydd. 4.4
Disgrifiodd Nicola broses gyfrifo oedd yn fwy heriol na’r
disgwyl eleni, oherwydd absenoldeb staff ac anawsterau o ran cael gwybodaeth am
Bensiwn y Gwasanaeth Sifil, ond cadarnhaodd ei bod yn parhau i fod yn disgwyl
cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon yn ôl yr amserlen y
cytunwyd arni, gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn disgwyl gosod y ddogfen ar 16
Gorffennaf. Byddai swyddogion a staff
Swyddfa Archwilio Cymru yn trafod unrhyw wersi a ddysgwyd mewn cyfarfod yn y
dyfodol. 4.5
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r
gwaith hwn a nododd bod y nifer cyfyngedig o sylwadau a ddaeth i law yn dyst i
ansawdd uchel y cyfrifon. |
|
Adroddiad ISA 260 2013-14 (gan gynnwys treuliau'r Aelodau) Cofnodion: 5.1
Cyflwynodd Mark Jones Safon Archwilio Ryngwladol 260. Cadarnhaodd eu bod wedi cael yr holl
ddogfennau gan Gomisiwn y Cynulliad ar amser a diolchodd i dîm Nicola am ei
gymorth. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y
cyfrifon yn ddiduedd, yn deg ac yn glir.
Y prif bwynt a noddodd oedd y prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol. 5.2
Yn ychwanegol at yr archwiliad o fudo data ar gyfer y
prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol ym mis Mehefin, argymhellodd yr adroddiad fod
archwiliad cwmpas llawn i ymarferoldeb y system a rheolaeth y prosiect yn
gyffredinol yn cael ei gynnal. Byddai’r
prosiect hwn hefyd yn cael ei nodi yn y Llythyr Rheoli. 5.3
Aeth Mark ymlaen i drafod eu hadolygiad o dreuliau
Aelodau’r Cynulliad. O’r sampl o 13, roedd pob un o’r canlyniadau ond un yn
foddhaol. Roedd y ddogfennaeth i brosesu
un cais wedi dod i law’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, ond nid oedd y datganiad
i gyd-fynd â’r cais wedi ei lofnodi gan yr Aelod Cynulliad o dan sylw. 5.4
Pwysleisiodd y swyddogion nad oedd hyn yn wariant
amhriodol oherwydd bod yr anfoneb wedi cael ei chynhyrchu, a chafwyd sicrwydd
gan Nicola fod y tîm Cymorth Busnes i Aelodau yn ymwybodol o’r anghysondeb hwn
ac wedi cael sicrwydd y byddai’r gwiriadau hyn yn cael eu cwblhau yn y dyfodol. 5.5
Mynegodd Claire ei
siom y byddai’r Llythyr Rheoli yn cynnwys y pwyntiau beirniadol hyn, yn enwedig
o ystyried yr adroddiad rhagorol a gafodd y Cynulliad y llynedd. Byddai’n parhau i annog swyddogion i godi eu
safonau, gyda’r nod o gael Llythyr Rheoli glân y flwyddyn nesaf. 5.6
Ailadroddodd Claire nad oedd y prosiect Cyflogres
Adnoddau Dynol wedi cael ei rheoli i safon dderbyniol, a dywedodd wrth y
Pwyllgor fod Gareth yn gyfrifol am arwain archwiliad cwmpas llawn ac y byddai
ef a Dave Tosh yn enwi arbenigwr rheoli prosiect / rhaglen annibynnol i
ymgymryd â’r gwaith hwn. Byddai’r
archwiliad hwn yn cael ei gynnal yn ystod toriad yr haf gydag adroddiad yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd. 5.7
Bu Aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu cyfeiriad penodol a
wnaed yn yr adroddiad na ddylai unrhyw ffioedd pellach gael eu talu i’r
cyflenwr. Anogodd Mark swyddogion i
sicrhau bod dealltwriaeth lawn o’r hyn y telir amdano cyn gwneud ymrwymiad at
unrhyw wariant pellach. 5.8
Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad ISA 260 yn
galonogol, yn gyffredinol, a chroesawodd yr archwiliad arfaethedig o’r prosiect
Cyflogres Adnoddau Dynol, yn enwedig o ystyried bod y Pwyllgor wedi cael ei
friffio ar ddau brosiect cyferbyniol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, sef y
prosiect Trawsnewid TGCh i’r Dyfodol a’r prosiect Cyflogres Adnoddau
Dynol. O ran yr archwiliad o lwfansau
Aelodau’r Cynulliad, roedd yn derbyn bod yr un hawliad nad oedd wedi’i lofnodi
yn ganlyniad i gamgymeriad yn y broses yn hytrach na bod hawliad amhriodol wedi’i
wneud. 5.9 Diolchodd i swyddogion y Cynulliad a staff Swyddfa Archwilio Cymru am eu gwaith a’u cyfraniad i’r cyfarfod. Daeth y Pwyllgor â’r rhan hon o’r cyfarfod i ben drwy argymell ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Papur i’w nodi Cofnodion: 6.1
Nododd y Pwyllgor
un achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol. 6.2
Byddai blaenraglen
wedi’i diweddaru yn cael ei dosbarthu i aelodau’r Pwyllgor, ynghyd â chynllun
gweithredu drafft, yn dilyn yr arolwg o effeithiolrwydd. Awgrymodd y Cadeirydd fod y cyfarfod yr
hydref yn cael ei ymestyn i sicrhau bod materion risg a pherfformiad yn cael eu
trafod yn drwyadl. Byddai’r tîm Clercio
yn cysylltu ag aelodau’r Pwyllgor yn unigol i drafod y trefniadau. Disgwylir i’r
cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 10 Tachwedd 2014. |