Agenda item

Adroddiad ISA 260 2013-14 (gan gynnwys treuliau'r Aelodau)

Cofnodion:

5.1        Cyflwynodd Mark Jones Safon Archwilio Ryngwladol 260.  Cadarnhaodd eu bod wedi cael yr holl ddogfennau gan Gomisiwn y Cynulliad ar amser a diolchodd i dîm Nicola am ei gymorth.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y cyfrifon yn ddiduedd, yn deg ac yn glir.  Y prif bwynt a noddodd oedd y prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol. 

5.2        Yn ychwanegol at yr archwiliad o fudo data ar gyfer y prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol ym mis Mehefin, argymhellodd yr adroddiad fod archwiliad cwmpas llawn i ymarferoldeb y system a rheolaeth y prosiect yn gyffredinol yn cael ei gynnal.  Byddai’r prosiect hwn hefyd yn cael ei nodi yn y Llythyr Rheoli.

5.3        Aeth Mark ymlaen i drafod eu hadolygiad o dreuliau Aelodau’r Cynulliad. O’r sampl o 13, roedd pob un o’r canlyniadau ond un yn foddhaol.  Roedd y ddogfennaeth i brosesu un cais wedi dod i law’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau, ond nid oedd y datganiad i gyd-fynd â’r cais wedi ei lofnodi gan yr Aelod Cynulliad o dan sylw.

5.4        Pwysleisiodd y swyddogion nad oedd hyn yn wariant amhriodol oherwydd bod yr anfoneb wedi cael ei chynhyrchu, a chafwyd sicrwydd gan Nicola fod y tîm Cymorth Busnes i Aelodau yn ymwybodol o’r anghysondeb hwn ac wedi cael sicrwydd y byddai’r gwiriadau hyn yn cael eu cwblhau yn y dyfodol.

5.5         Mynegodd Claire ei siom y byddai’r Llythyr Rheoli yn cynnwys y pwyntiau beirniadol hyn, yn enwedig o ystyried yr adroddiad rhagorol a gafodd y Cynulliad y llynedd.  Byddai’n parhau i annog swyddogion i godi eu safonau, gyda’r nod o gael Llythyr Rheoli glân y flwyddyn nesaf.   

5.6        Ailadroddodd Claire nad oedd y prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol wedi cael ei rheoli i safon dderbyniol, a dywedodd wrth y Pwyllgor fod Gareth yn gyfrifol am arwain archwiliad cwmpas llawn ac y byddai ef a Dave Tosh yn enwi arbenigwr rheoli prosiect / rhaglen annibynnol i ymgymryd â’r gwaith hwn.  Byddai’r archwiliad hwn yn cael ei gynnal yn ystod toriad yr haf gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd.

5.7        Bu Aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu cyfeiriad penodol a wnaed yn yr adroddiad na ddylai unrhyw ffioedd pellach gael eu talu i’r cyflenwr.  Anogodd Mark swyddogion i sicrhau bod dealltwriaeth lawn o’r hyn y telir amdano cyn gwneud ymrwymiad at unrhyw wariant pellach. 

5.8        Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad ISA 260 yn galonogol, yn gyffredinol, a chroesawodd yr archwiliad arfaethedig o’r prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol, yn enwedig o ystyried bod y Pwyllgor wedi cael ei friffio ar ddau brosiect cyferbyniol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, sef y prosiect Trawsnewid TGCh i’r Dyfodol a’r prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol.  O ran yr archwiliad o lwfansau Aelodau’r Cynulliad, roedd yn derbyn bod yr un hawliad nad oedd wedi’i lofnodi yn ganlyniad i gamgymeriad yn y broses yn hytrach na bod hawliad amhriodol wedi’i wneud.  

5.9        Diolchodd i swyddogion y Cynulliad a staff Swyddfa Archwilio Cymru am eu gwaith a’u cyfraniad i’r cyfarfod. Daeth y Pwyllgor â’r rhan hon o’r cyfarfod i ben drwy argymell i’r Swyddog Cyfrifyddu y gallai’r cyfrifon gael eu llofnodi.

          Camau gweithredu

-                   Gareth a Dave i ofyn i arbenigwr allanol adolygu’r prosiect Cyflogres Adnoddau Dynol.