Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Amseriad disgwyliedig: Venue: National Waterfront Museum
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau, y tystion a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Estynnodd y
Cadeirydd ei ddiolch i Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'i staff am y
cymorth a roddwyd i'r Pwyllgor. 1.3 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Ann Jones. Roedd Mike Hedges yn
dirprwyo ar ei rhan. |
||
(10.30-12.25) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Dogfennau ategol: |
|
Y Ffordd y caiff Cymru ei Hyrwyddo a'i Marchnata Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran hyrwyddo a
marchnata Cymru. Cyflwynodd y Cadeirydd
nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog, yn ymwneud â hyrwyddo a marchnata Cymru,
a ddaeth i law gan aelodau'r cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. |
||
Datblygiadau Cyfansoddiadol Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Manon Antoniazzi, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Treftadaeth a
Chwaraeon Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa y Prif Weinidog Hugh Rawlings, Cyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol Cofnodion: 2.2 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran datblygiadau
cyfansoddiadol. |
||
(12.25-12.30) |
Papurau i’w nodi CSFM(4)02-15(ptn1) – Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru
mewn ymateb i argymhellion gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog:
Perthynas Llywodraeth Cymru gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat. CSFM(4)02-15(ptn2) - Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y
Cadeirydd – Dilyn o’r cyfarfod ar 13 Mawrth 2015 (Rôl Llywodraeth Cymru wrth
ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a’r broses o ran penodiadau cyhoeddus
amlwg yng Nghymru, a chraffu yn hyn o beth) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau'r ddau bapur: CSFM(4)02-15(ptn1) – Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru mewn ymateb i
argymhellion gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Perthynas
Llywodraeth Cymru gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat. CSFM(4)02-15(ptn2) - Llythyr gan Brif Weinidog Cymru at y Cadeirydd – Dilyn
o’r cyfarfod ar 13 Mawrth 2015 (Rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a
hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a’r broses o ran penodiadau cyhoeddus amlwg yng
Nghymru, a chraffu yn hyn o beth) |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu
gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ar yr Agenda. |
||
(12.30-12.40) |
Trafod y Dystiolaeth o’r Sesiwn Flaenorol Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu
flaenorol a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn nodi nifer o sylwadau
ac argymhellion. |