Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriad gan Ann Jones. Roedd Lynne Neagle yn dirprwyo ar ei rhan.

 

 

2.

Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog (09:30 - 11:20)

Carwyn  Jones AC, Prif Weinidog

·         Bethan Webb - Dirprwy Gyfarwyddwr, Iaith Gymraeg

·         Peter Kennedy – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac am y broses o ran penodiadau cyhoeddus, a chraffu yn hyn o beth.

 

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog yn ymwneud â’r Gymraeg. Cwestiynau gan y cyhoedd oedd y rhain a fe’u hanfonwyd drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

2.1

Rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

2.2

Y broses o ran penodiadau cyhoeddus amlwg yng Nghymru, a chraffu yn hyn o beth.

Dogfennau ategol:

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 4

Cofnodion:

4. 1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4 ar yr Agenda.

 

4.

Trafod y dystiolaeth o’r sesiwn flaenorol (11:20 - 11:30)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu flaenorol a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn nodi nifer o sylwadau ac argymhellion.