Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies, Jocelyn Davies ac Ann Jones. Roedd William Graham yn dirprwyo ar ran Paul Davies a Jeff Cuthbert yn
dirprwyo ar ran Ann Jones yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(11.15-13.15) |
Sesiwn Graffu ar Waith Gweinidogion - Adolygiad o Bynciau y Craffwyd Arnynt mewn Cyfarfodydd Blaenorol Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn holi'r Prif Weinidog ar bynciau a drafodwyd mewn
cyfarfodydd blaenorol yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi rhagor o
wybodaeth: ·
yn cymharu cyfran yr ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus o grwpiau sydd
heb gynrychiolaeth ddigonol â chyfran y penodiadau gwirioneddol o'r grwpiau hyn; ·
ynghylch effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir i annog ceisiadau gan bobl
yn y grwpiau hynny. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr agenda. |
||
(13.15-13.30) |
Trafod y dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu
gynharach a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog, yn nodi nifer o sylwadau
ac argymhellion. |