Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas AC.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

1c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol.

2.

Gwasanaethau dwyieithog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Daeth y cyfnod ymgynghori â’r cyhoedd cyn deddfu i ben ar 14 Hydref a bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a’u cyflwyno i’r Comisiwn yn ei gyfarfod nesaf. Yn amodol ar gytundeb y Comisiwn, disgwylir y bydd y Bil, gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau, yn cael ei gyflwyno yn gynnar ym mis Rhagfyr, a bydd y cynllun arfaethedig yn cael ei osod gerbron y Cynulliad yr un pryd.

 

Yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, cytunodd y Comisiwn mewn egwyddor y dylid ailsefydlu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog cyhyd â bod y trefniant yn gynaliadwy yn y tymor hir ac y gellid ei ddarparu am gost resymol. Ers mis Gorffennaf, bu’r cyfieithwyr yn profi’r systemau meddalwedd cyfieithu ar-lein a ddarperir gan Google, ac mae asesiad o’r gost o ddefnyddio system o’r fath yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. 

 

Croesawodd y Comisiynwyr y cynnydd a wnaed ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a’r gwaith ymchwilio a wnaed mewn perthynas â darparu Cofnod y Trafodon cwbl ddwyieithog.

 

Bydd papur arall ar y mater (yn ogystal ag ar ffurf derfynol y Bil a’r Cynllun) yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Comisiwn ar 24 Tachwedd.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i gysylltu â Google eto i ymchwilio a yw’n debygol o godi tâl am y pecyn cymorth ac i adrodd ar ganlyniad y trafodaethau yn ei gyfarfod ar 24 Tachwedd. 

 

3.

Adolygiad ar ôl chwe mis ar fuddion ac arbedion UNO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am fuddion ac arbedion prosiect UNO. Trafodwyd y cyflawniadau ar sail amcanion y prosiect a’r gwaith i gasglu adborth ar fodlonrwydd y defnyddwyr. Cytunwyd bod cyflawniadau sylweddol wedi’u gwneud, ond bod nifer o faterion technegol heb eu datrys a oedd yn achosi anawsterau i rai defnyddwyr.

 

Mae cynllun i ddatrys y materion hyn ar waith gyda Atos, sy’n darparu adnoddau technegol penodol i archwilio a datblygu’r atebion heb gost ychwanegol i’r Cynulliad. Treialwyd y feddalwedd wedi’i diweddaru gan 100 o ddefnyddwyr, a rhagwelir y bydd y newidiadau’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer pob defnyddiwr yn ystod mis Hydref. 

 

Sefydlwyd grŵp strategaeth TGCh ym mis Mawrth 2011 i ystyried yr opsiynau ar gyfer darpariaeth TGCh ar ôl 2014. Bydd papur opsiynau manwl yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ar 24 Tachwedd.

 

Nododd y Comisiwn yr adroddiad a’r mesurau a roddwyd ar waith i ddatrys y materion a oedd yn weddill. Cytunwyd y bu ymrwymiad sylweddol gan y staff TGCh o ran cyflawni’r prosiect hwn. 

 

Bydd papur gwerthuso arall ar UNO yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn mewn chwe mis.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi papur ar fuddion ariannol prosiect UNO fel rhan o’r adroddiad cynnydd nesaf mewn chwe mis.

4.

Gwella cymorth mynediad i Aelodau’r Cynulliad: creu cronfa fynediad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd y syniad o greu Cronfa Fynediad ganolog. Byddai’r gronfa yn galluogi’r holl Aelodau i ymgysylltu ag etholwyr sydd ag anghenion amrywiol. Byddai’r gronfa hefyd yn lliniaru effeithiau’r risg o weithredu neu o beidio â gweithredu a allai fynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

 

Nododd y Comisiynwyr y byddai’r gronfa’n cael ei sefydlu a’i gweinyddu y tu allan i gylch gwaith y Bwrdd Taliadau ond bod rhai darpariaethau cysylltiedig o fewn darpariaethau’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau. Cytunwyd y dylid hysbysu’r Bwrdd Taliadau ynghylch y penderfyniad a sut y caiff ei weithredu.

 

Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i ddefnyddio’r gronfa ar gyfer rhoi cymorth mynediad i grwpiau trawsbleidiol yn y Cynulliad. Byddai hyn yn cael ei gyfyngu i ofynion penodol, ac eglurodd y Comisiynwyr na ddylai estyn i gymorth cyffredinol i grwpiau trawsbleidiol.

 

Cytunodd y Comisiwn ar yr argymhellion yn y papur.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion, mewn ymgynghoriad â Sandy Mewies, i ddatblygu canllawiau i ddefnyddio’r gronfa.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i ddiweddaru’r canllawiau i gymorth ar gyfer grwpiau trawsbleidiol.

 

5.

Adroddiad y Bwrdd Rheoli i’r Comisiwn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am y materion o fewn pob un o amcanion strategol y Comisiwn.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiliaid portffolios

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau o fewn eu portffolios.

 

Fel y Comisiynydd sy’n gyfrifol am gyllidebau a llywodraethu, rhoddodd Angela Burns y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiwn am adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn. Cytunodd y Comisiwn ar ei ymateb i argymhellion y Pwyllgor, gan gynnwys cyflwyno’r cynnydd arfaethedig yn y gyllideb dros dair blynedd.

 

Cyflwynodd y Comisiynwyr eraill y wybodaeth ddiweddaraf am eu portffolios hefyd.

7.

Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen dreigl.

 

8.

Papur i’w nodi - Cynghorydd Ariannol a Llywodraethu Corfforaethol

Barnwyd nad yw’r papur hwn yn addas i’w gyhoeddi yn unol â rheolau’r Comisiwn ar gyfer cynnal busnes.

Cofnodion:

Nododd y Comisiwn yn ffurfiol y penderfyniad a wnaed y tu allan i’r pwyllgor i gytuno i estyn y penodiad hwn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2012.

 

9.

Papur i'w nodi - Cynnig i ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Comisiwn yn ffurfiol y penderfyniad a wnaed y tu allan i’r pwyllgor i gyflwyno cynnig i ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau.

 

10.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Trafodwyd y bwriad i greu rôl Cyfarwyddwr TG a chytunwyd arno. Nododd y Comisiynwyr y dylai’r broses recriwtio ddechrau cyn gynted â phosibl.