Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.10 - 9.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(9.15 - 10.15) |
Rheoli grantiau yng Nghymru - tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PAC(4) 07-12 – Papur 1 – Rheoli Grantiau – CLlLC Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), CLlLC Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, a Mari Thomas, Swyddog Polisi (Cyllid), CLlLC i’r cyfarfod. 2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd CLlLC ar y canlynol: · I ddarparu eglurhad o’r angen i hepgor taliadau diswyddo (a’r defnydd o’r hepgoriadau hyn) pan fo staff awdurdodau lleol yn gweithio ar gontractau tymor penodol; ac · Eglurhad ynghylch a yw angen o’r fath yn deillio o Reoliadau Ewropeaidd.
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Cofnodion: Eitemau 4 i 7. |
||
(10.15 - 10.25) |
Ystyried y dystiolaeth ynghylch rheoli grantiau yng Nghymru Cofnodion: 4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth ynghylch ei ymchwiliad i reoli grantiau yng Nghymru. |
|
(10.25 - 10.35) |
Ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) drafft Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ymateb i'r ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) drafft, a fydd yn cael ei anfon at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ cyn hir. |
|
(10.35 - 10.45) |
Ymdrin â gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a gafodd ei gan y Pwyllgor ar 24 Ebrill 2012. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniad ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl i bobl hŷn (sy’n cynnwys ystyriaeth o effeithiolrwydd y drefn reoli bresennol) cyn dod i benderfyniad ynghylch cymryd camau pellach o ganlyniad i ohebiaeth yr Archwilydd Cyffredinol. |
|
(10.45 - 11.00) |
Ystyried ymweliad â Chynulliad Gogledd Iwerddon Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ymweliad arfaethedig â Chynulliad Gogledd Iwerddon. 7.2 Gofynnodd y Pwyllgor i’r Clerc baratoi cynigion manylach ar ei gyfer (gan gynnwys dyddiadau). |
|
Papur i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion ei gyfarfod ar 1 Mai 2012. |
||
Trawsgrifiad |