Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.10 - 09.15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Leanne Wood. Roedd Lindsay Whittle yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
(09:15 - 10:15) |
Darlun o wasanaethau cyhoeddus - tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG PAC(4) 03-12 – Papur 1 – Conffederasiwn y GIG Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, a Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. 2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion. Pwyntiau gweithredu: Cytunodd Conffederasiwn GIG Cymru i ddarparu’r hyn a ganlyn: · Manylion am yr arian ychwanegol a ryddhawyd o gyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru a ddyrennir i Fyrddau Iechyd Lleol dros y tair blynedd nesaf. · Rhagor o wybodaeth am lle y gwnaed arbedion ariannol arwyddocaol a lle y llwyddwyd i leihau costau’n sylweddol gan fyrddau iechyd unigol. |
|
(10.15 - 10.45) |
Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfranogiad y cyhoedd o ran ailgylchu gwastraff PAC(4) 03-12 – Papur 2 – adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Cyfranogiad y cyhoedd o ran ailgylchu gwastraff Huw Vaughan Thomas, Archwiliydd Cyffredinol Cymru Andy Phillips, Arbenigwr Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac Andy Phillips, Arbenigwr Perfformiad, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff. 3.2 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. 3.3 Cytunodd y Cynghorydd Cyfreithiol i ddarparu nodyn ar gymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Eitemau 5 a 6. Cofnodion: Eitem 5. |
||
(10.45 - 11.00) |
Trafod opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfranogiad y cyhoedd o ran ailgylchu gwastraff Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Cyfranogiad y Cyhoedd o ran Ailgylchu Gwastraff. |
|
Papur i’w nodi PAC(4) 02-12 – cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2012. |
||
Trawsgrifiad |