Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Tom Jackson
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1. 1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r
cyhoedd i’r cyfarfod.
|
2. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Cofnodion:
|
3. |
Penodi archwilwyr i archwilio cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru
Cofnodion:
3.1 Cymeradwyodd
y Pwyllgor yr argymhelliad i benodi archwilwyr ar gyfer
cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Bydd cynnig yn cael
ei gyflwyno er mwyn i’r
Cynulliad benodi’r archwilwyr.
|
4. |
Darparu gwasanaethau TGCh a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin
Ystyried y dull o ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio
Cymru ar gontract TGCh Merlin.
Cofnodion:
4.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod ei ystyriaeth o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Darparu gwasanaethau TGCh a phrosiectau TGCh o dan gontract
Merlin.
|
5. |
Ystyried rhaglen Swyddfa Archwilio Cymru o astudiaethau gwerth am arian
PAC(4)-02-12 – Papur 1- Ystyried blaenraglen waith Swyddfa
Archwilio Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5. 1 Croesawodd y Pwyllgor Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gillian Body, Partner rheoli,
Swyddfa Archwilio Cymru
5.2 Bu’r Pwyllgor
yn trafod rhaglen swyddfa archwilio Cymru o astudiaethau gwerth am arian.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Swyddfa
Archwilio Cymru i ddarparu:
·
Rhagor o fanylion am waith archwilio lleol a gweithgarwch arall a wneir gan Swyddfa
Archwilio Cymru na fyddai
fel arfer yn cael ei
ystyried gan y Pwyllgor.
·
Rhagor o wybodaeth am amserlen adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o fasnachfraint Cymru a’r gororau a sut
mae’n cyd-drefnu’r amserlen gyda Llywodraeth
Cymru.
|
6. |
Rheoli grantiau yng Nghymru - tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth
Cymru
Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio
Strategol, Cyllid a Pherfformiad
Arwel Thomas, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol
Cofnodion:
6. 1 Croesawodd y Pwyllgor y Fonesig Gillian
Morgan, Ysgrifennydd Parhaol;
Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol
– Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; ac Arwel Thomas, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd.
6.2 Bu’r Pwyllgor
yn holi’r tystion.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Llywodraeth
Cymru i ddarparu:
·
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad i AWEMA a rhagor o fanylion am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir gan AWEMA yn cael
eu cynnal.
|
7. |
Papurau i'w nodi
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.
|
|
Trawsgrifiad
|