Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Webber 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Adroddiad Audit Scotland ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru

(9.00-09.15)

 

Cofnodion:

1.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod canfyddiadau adroddiad Audit Scotland ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru.

2.

Ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod.  

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone a Julie Morgan. Roedd David Rees a Ken Skates yn dirprwyo ar eu rhan.

3.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru 2010-11

(9.20-10.20)

PAC(4)-03-11-Papur1- Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru 2010-11

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Terry Jones, Rheolwr Technegol

Kevin Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

 

 

PAC(4)-03-11-Papur 2 – Adroddiad Blynyddol gan Audit Scotland ar archwiliad 2010-11 o Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Russell AJ Frith, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Mark Taylor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Audit Scotland

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2010-11 i’r Pwyllgor.

 

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i ddarparu:

 

·         Nodyn yn esbonio a oedd y lleihad a gafwyd mewn costau eiddo o ganlyniad i uno’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru a’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn 2005 (i greu Swyddfa Archwilio Cymru) wedi cyflawni’r arbedion effeithlonrwydd a ragwelwyd.

·         Rhagor o fanylion am y cynnydd mewn absenoldeb salwch hirdymor yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y flwyddyn diwethaf.

4.

Trafodaeth am yr Amcangyfrif o Incwm a Gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben 31 Mawrth 2012

(10.20-10.50)

PAC(4)-03-11-Papur 3 Amcangyfrif Ategol o Incwm a Gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2012

March 2012

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei amcangyfrif atodol ar gyfer 2011-12 i’r Pwyllgor.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·         Manylion am strategaeth TGCh Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf.

5.

Materion yn ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru

(10.50-11.00)

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried materion yn ymwneud â llywodraethiant ac atebolrwydd mewn cysylltiad ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

5.2 Bydd y Pwyllgor yn cytuno ar aelodaeth y grŵp gorchwyl a gorffen yn ffurfiol yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2011.

 

5.3 Cytunodd y Pwyllgor y bydd cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gynnal ar 11 Hydref 2011.

Trawsgrifiad