Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cafodd y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2013. O dan y Ddeddf, roedd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau ac roedd corff newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei greu. Mae hefyd yn nodi trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Caiff Swyddfa Archwilio Cymru ei rheoli gan fwrdd, a benodwyd yn ffurfiol ar 16 Hydref 2013. Roedd yn rhaid i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru fod ar waith erbyn mis Hydref 2013 er mwyn paratoi ar gyfer ymgymryd â’i swyddogaethau’n llawn ar 1 Ebrill 2014. Roedd ei waith cychwynnol yn cynnwys paratoi Amcangyfrif o Incwm a Threuliau a oedd yn ofynnol erbyn 2014-15, er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei drafod. Trafodwyd yr amcangyfrif hwn gan y Pwyllgor Cyllid ar 13 Tachwedd 2013.

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/11/2013

Dogfennau