Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Webber
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00-9:05) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Cofnodion: Eitemau 3 a 4. |
||
(9:05-9:20) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2012 Cofnodion: |
|
(9:20-10:00) |
Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011' Cofnodion: |
|
(10:00-11:00) |
Darparu gwasanaethau a phrosiectau TGCh o dan gontract Merlin: Tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Croesawodd y Pwyllgor
y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol;
Bernard Galton, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau
Corfforaethol; a Crispin O’Connell, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Lleoedd a
Gwasanaethau. 5.2 Yn ogystal, croesawodd y Pwyllgor y tystion a
ganlyn i’r cyfarfod: Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Paul
Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru. 5.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu: ·
Manylion ynghylch y 298 o
gyflenwyr gwahanol a ddefnyddiwyd y tu allan i gontract Merlin, gan gynnwys
manylion ynghylch nifer y cyflenwyr hynny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. ·
Rhagor o wybodaeth am arbedion
a wnaed drwy osgoi cosbau ariannol, gan gynnwys gwybodaeth am y modd y
dangoswyd gwerth am arian ac am unrhyw faterion sy’n ymwneud ag enw da. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
Trawsgrifiad |