Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Webber 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.00-09.05

1.

Ymddiheuriadau a dirprwyon

(09.05-09.15)

2.

Materion sy'n ymwneud â Llywodraethiant ac Atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

2.1 Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei sefydlu gan y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.17 i ystyried materion llywodraethiant ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor mai cylch gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd cynghori’r Cynulliad ynghylch penodi archwilwyr i edrych ar gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried amcangyfrif a chyfrifon blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried materion ynghylch llywodraethiant ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried materion ynghylch enwebu Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac ystyried materion eraill a drosglwyddir i’r grŵp gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor mai cyfnod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd y flwyddyn Cynulliad o 2011 i 2012, a daw i ben ar 20 Gorffennaf 2012.

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys yr Aelodau a ganlyn: Darren Millar AC, Mike Hedges AC, Aled Roberts AC a Leanne Wood AC. Cafodd Darren Millar ei ethol yn Gadeirydd gan y Pwyllgor, ond bydd y rôl hon yn cael ei rhannu gan yr Aelodau.

 

(09.15-10.15)

3.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

PAC(4) 04-11 (papur 2)

 

Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rebecca Stafford, Swyddog Polisi

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1 Croesawyd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a Rebecca Stafford, Swyddog Polisi, i gyfarfod y Pwyllgor.

 

3.2 Hefyd, croesawyd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod.

 

3.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddarparu:

 

·         gwybodaeth ychwanegol am ganfyddiadau’r adroddiad ar urddas mewn gofal;

·         canlyniadau’r gwerthusiad o gynllun Robin yn y Gogledd; a

·         gwybodaeth ychwanegol am arferion da sy’n cael eu rhoi ar waith gan ysbytai, yn enwedig y model cadw tŷ.

 

 

Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·         crynodeb o arferion da.

 

Papur i'w nodi

Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

 

Trawsgrifiad