Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Esgusododd Jocelyn Davies ei hun ar gyfer y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 18.8.
Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan. |
|
(09.00 - 09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papur. |
|
(09.05-09.25) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor PAC(4)-01-16 Papur 1 – Argymhellion y Pwyllgor PAC(4)-01-16 Papur 2 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-01-16 Papur 2A – Datganiad Ysgrifenedig Gan Lywodraeth Cymru - Tryloywder
Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng
Nghymru (7 Rhagfyr 2015) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion
yn adroddiad y Pwyllgor. 3.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol
gan ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion. |
|
(09.25-09.50) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law PAC(4)-01-16 Papur 3 - Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru PAC(4)-01-16 Papur 4 - Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr PAC(4)-01-16 Papur 5 – Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd a thrafododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law yn
dilyn y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2015. |
|
(09.50-11.00) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Ystyried yr Adroddiad Drafft PAC(4)-01-16 Papur 6 – Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft
diwygiedig ar gael i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ionawr. |