Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod 1.2
Ni chafwyd
ymddiheuriadau. Datgelodd
Sandy Mewies ddiddordeb fel Aelod o Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, ac roedd
yn absennol o’r drafodaeth ar gyfer eitemau 5 a 6. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi: Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papurau. 2.2 Datgelodd Julie Morgan ddiddordeb, gan mai
ei gŵr oedd y Prif Weinidog ar adeg y buddsoddiad ym Masn y Rhath a soniwyd am
hynny yn llythyr yr Archwilydd Cyffredinol at Eluned Parrott. |
|
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru: Llythyr gan James Price, Llywodraeth (2 Chwefror 2015) Dogfennau ategol: |
||
Y Pwyllgor Gohebiaeth: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Eluned Parrott AC (4 Chwefror 2015) - Buddsoddiad Llywodraeth Cymru ym Masn y Rhath Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:15) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y Wybodaeth Ysgrifenedig Ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-05-15
Papur 1 – Yr Athro Jean White – GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth
ysgrifenedig ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd y
Pwyllgor ar y canlynol: ·
Gwahodd y
Prif Swyddog Nyrsio i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. ·
Ysgrifennu
at bob Cyngor Iechyd Cymuned yn holi pa waith sy’n cael ei wneud mewn perthynas
â hysbysu ynghylch maeth a hydradu ar gyfer cleifion. |
|
(09:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(09:15-09:45) |
Sesiwn briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Ymadawiadau Cynnar yng Nghyrff Cyhoeddus Cymru PAC(4)-05-15
Papur 2 - Rheoli ymadawiadau cynnar yng ngwahanol gyrff cyhoeddus Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafwyd sesiwn briffio gyda Swyddfa
Archwilio Cymru i'r Pwyllgor ar ei hadroddiad diweddar ar Reoli Ymadawiadau
Cynnar yng Nghyrff Cyhoeddus Cymru. 5.2 Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i
ddarparu'r canlynol: ·
Nodyn ar y
cynllun Buddsoddi i Arbed. ·
Faint o
staff oedd gan bob corff dan sylw ar ddiwedd 2013-2014. 5.3 Cytunodd y
Pwyllgor hefyd: ·
Y byddai’n
ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn iddo ymateb i'r adroddiad. |
|
(09:45-10:20) |
Craffu ar Gyfrifon 2013-14: Ystyried yr Adroddiad Drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad
drafft ar Graffu ar Gyfrifon 2013-14, a chytunwyd ar nifer fach o newidiadau. |