Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. |
|
(09:00-10:00) |
Cwrdd â'r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru Briff ymchwil June Milligan - Cyfarwyddwr Cyffredinol, AdranLlywodraeth Leol a
Chymunedau, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Debra Carter - Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cyllid
Llywodraeth Leol a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru ynghylch Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth
Leol yng Nghymru. 2.1 Cytunodd June Milligan i ysgrifennu at y Cadeirydd ar nifer o faterion
a godwyd yn y sesiwn. 2.3 Yn ystod rhan breifat y cyfarfod, bu'r Aelodau'n trafod y dystiolaeth
a gafwyd. |
|
(10:00-10:15) |
Craffu mewn llywodraeth leol PAC(4)-17-14(papur 1) PAC(4)-17-14(papur 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau yr adroddiad a
chytunwyd y byddai'n cynorthwyo â'r ymchwiliad sy'n cael ei gynnal i'r heriau
ariannol sy'n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru, ac na fyddent yn gwneud
ymchwiliad ar wahân ar y mater hwn. |
|
(10:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 & 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:15-10:35) |
Dulliau o weithio: Asesu dulliau o weithio PAC(4)-17-14(papur 3) Cofnodion: 5.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau anfon
unrhyw sylwadau at y clerc. |
|
(10:35-11:00) |
Blaenraglen waith: Hydref 2014 PAC(4)-17-14(papur 4) Cofnodion: 6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau anfon
unrhyw sylwadau at y clerc. |