Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(14.05 - 15.00)

2.

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'

PAC(4) 16-13 – Papur 1 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’

Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru; Maureen Howell, Pennaeth y Gangen Newid Ffyrdd o Fyw, Llywodraeth Cymru; a Val Whiting, Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad cost a budd o bob opsiwn ar gyfer y strwythur TG arfaethedig a fydd yn sail i'r swyddogaeth arlwyo mewn ysbytai;

·         Manylion am ganran yr aelodau o staff nyrsio Band 5 ar draws yr holl fyrddau iechyd sy'n methu â chael mynediad i gyfleusterau e-ddysgu gan nad oes ganddynt fynediad i gyfrifon e-bost gwaith;

·         Costau sy'n gysylltiedig â rhoi'r pecyn e-ddysgu ynghylch maeth cleifion ar waith;

·         Rhagor o fanylion ynghylch lefel y cyfranogiad mewn pecynnau hyfforddi ar-lein yn y GIG;

·         Rhagor o wybodaeth ynghylch i lle mae gwastraff bwyd yn mynd, gan gynnwys manylion am y contractau gwastraff rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol; a

·         Nodyn yn esbonio'r mesurau a roddwyd ar waith gan fyrddau iechyd i ateb y gofynion a bennwyd gan y Bil Sgorio Hylendid Bwyd.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a godwyd yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

(15.00 - 16.00)

3.

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'

PAC(4) 16-13 – Papur 2 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’

Dr June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru; Piers Bisson, Pennaeth yr Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; ac Abigail Harris, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Ffigurau sy'n dangos sut mae sgiliau rheoli cyllid yn y gwasanaeth cyhoeddus wedi gwella;

·         Eglurhad o gostau a buddion y gwaith a wnaed ar y cyd gan fentrau megis y Grŵp Cyflawni Diwygio; Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus; Cyngor Partneriaeth; Academi; a'r Comisiwn newydd ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus;

·         Nodyn ynghylch y defnydd o systemau darbodus o fewn Llywodraeth Cymru;

·         Enghreifftiau o achosion lle mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido ymgynghorwyr i adolygu mentrau'r system ddarbodus sydd heb gael eu gweithredu;

·         Rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd arfer da yn y sectorau iechyd a chymdeithasol yn cael ei rhannu ar draws awdurdodau lleol.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd y Pwyllgor yn y cyfarfod hwn.

 

(16.00 - 17.00)

4.

Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad ar 'Fuddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion'

PAC(4) 16-13 – Papur 3 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Fuddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion’

Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru; Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Llywodraeth Cymru; a Sonia Reynolds, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Rhaglen Trawsnewid.

 

4.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad o'r nifer o ysgolion ym mhob categori a nodwyd gan arolwg stoc Llywodraeth Cymru yn 2009, gan gynnwys rhestr o'r ysgolion hynny ym Mand D.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd yr Aelodau yn y cyfarfod hwn.

 

 

5.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod diwethaf a'r rhaglen waith ar gyfer tymor haf 2013.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 7.

(17.00 - 17.30)

7.

Ystyried y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am weithredu'r argymhellion yn adroddiadau'r Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr adroddiadau 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'; 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'; a 'Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion'.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol yn nodi'r prif bryderon ac argymhellion.

 

Trawsgrifiad