Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r
cyfarfod. |
|
(9:05 - 10:00) |
Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Sesiwn friffio ar yr adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan
Thomas, Archwilydd Cyffredinol
Cymru Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Mandy Collins, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd
Cyffredinol Cymru; Mike Usher, Swyddfa Archwilio Cymru; Dave Thomas, Swyddfa
Archwilio Cymru; Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd
Cymru; a Mandy Collins, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru 2.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i friffio’r Pwyllgor ar ganfyddiadau eu
harolwg ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr’. |
|
Papurau i’w nodi PAC(4)
20-13 – Papur 1 – Ymateb i’r camau gweithredu
gan Lywodraeth Cymru – Darlun o wasanaethau cyhoeddus Rhaglen waith
- haf 2013 Cofnodion y cyfarfod
blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb i bwyntiau gweithredu gan
Lywodraeth Cymru. 3.2 Nododd y Pwyllgor ei raglen waith ddrafft ar gyfer
tymor yr haf 2013. 3.3 Nododd y Pwyllgor gofnodion cyfarfod 25 Mehefin 2013. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau
5 a 6. |
||
(10:00 - 10:30) |
Trafod y dull o ymdrin â’r adolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru: Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad ‘Trosolwg
o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr’ a chytunodd i
gynnal ymchwiliad byr cyn diwedd tymor yr haf. |
|
(10:30 - 11:00) |
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor: ‘Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’ Cofnodion: 6.1 Yn sgîl cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i
ohirio trafod adroddiad drafft y Pwyllgor, ‘Gwaith Caffael a Rheoli
Gwasanaethau Ymgynghori’ tan y cyfarfod nesaf. |
|
Trawsgrifiad |