Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00-09:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(9:05 - 9:10) |
Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ a ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’ PAC(4) 15-13 –
Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ PAC(4) 15-13 –
Papur 2 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar
ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid
Iechyd’ PAC(4) 15-13 –
Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’ PAC(4) 15-13 –
Papur 4 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar
ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’ Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd
Cyffredinol Cymru roi cyngor i’r Pwyllgor ar ymatebion Llywodraeth Cymru i
adroddiadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ a ‘Gwasanaethau
Mamolaeth yng Nghymru’. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor
i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid Iechyd ar ôl mis Mehefin
2013. 2.3 Nododd y Pwyllgor y croesgyfeirio rhwng ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’ a’r ymchwiliad
‘Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision
a Fwriadwyd’. Cytunodd i wahodd Llywodraeth Cymru i roi tystiolaeth mewn
cyfarfod yn yr hydref. |
|
Papurau i'w nodi PAC(4) 15-13 –
Papur 5 – Ymateb i gam i’w gymryd o gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar
18 Ebrill Cofnodion
y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. |
||
(9:10 - 9:25) |
Sesiwn friffio ar y materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag
ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r
camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. |
|
(9:25 - 9:30) |
Trafod cymorth i'r Pwyllgor Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cymorth i’r
Pwyllgor. |
|
(9:30-11:00) |
Argyfyngau Sifil yng Nghymru – Ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Argyfyngau Sifil yng
Nghymru’ a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
Trawsgrifiad |