Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00-09:05)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Gwyn Price.

 

 

(09:05-10:00)

2.

Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - Tystiolaeth gan y Bwrdd Iechyd

Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Janet Wilkinson, Cyfarwyddwr Gweithlu Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Meddygol, Gweithlu Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Richard Tompkins, Cyfarwyddwr, Uned Cyflogwyr GIG yng Nghymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; Janet Wilkinson, Cyfarwyddwr y Gweithlu, Bwrdd Iechyd Hywel Dda; Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda; a Richard Tompkins, Cyfarwyddwr, Uned Cyflogwyr GIG Cymru.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

 

·         Rhagor o wybodaeth am hysbyseb ym maes awyr Bryste yn hyrwyddo meddygfeydd preifat ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro;

 

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddarparu:

 

·         Eglurhad am y broses rhwng yr ymarferydd cyffredinol a’r meddyg ymgynghorol i roi cleifion sydd ar restrau aros gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar lwybr carlam.

3.

Papurau i'w nodi

PAC(4) 11-13 – Papur 1 - Rheoli Grantiau - Gohebiaeth gan WCVA

PAC(4) 11-13 - Papur 2 - Ymateb Llywodraeth Cymru i bwyntiau gweithredu - 19 Mawrth, 2013

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar Reoli Grantiau ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r camau i’w cymryd a nodwyd yn y cyfarfod ar 19 Mawrth 2013.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 a 6

(10:00-10:15)

5.

Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - Ystyried y Dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar Gontract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd.

(10:15-11:00)

6.

Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ystyried yr Adroddiad Drafft

Cofnodion:

6.1 Fe wnaeth Julie Morgan ddatgan diddordeb mewn Rheoli Grantiau yng Nghymru oherwydd bod ei gŵr yn gyn Brif Weinidog Cymru â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli grantiau yn ystod y cyfnodau sydd wedi eu hamlygu yn yr adroddiad drafft, ac eithriodd ei hun rhag cymryd rhan yn y trafodion.

 

6.2 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a bydd yn rhoi rhagor o ystyriaeth i’r adroddiad mewn cyfarfod arall.

 

Trawsgrifiad