Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd.

(9:05 - 9:55)

2.

Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Is-Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ruth Hussey, Prif Swyddog Feddygol, Yr Is-Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Jones, Dirprwy Prif Swyddog Feddygol, Yr Is-Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol, yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; a Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant.

 

2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Amserlen yn amlinellu sut y bydd y GIG yng Nghymru yn gweithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru;

·         Rhagor o wybodaeth am brosiectau y mae'r GIG yng Nghymru wedi comisiynu CHKS i ymgymryd â nhw, ac eglurhad ynghylch sut ddaeth y GIG yng Nghymru i'r casgliad bod y cytundeb yn cynrychioli gwerth da am arian;

·         Adborth ar y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch mesurau teg ac ystyrlon o gynhyrchiant meddygon ymgynghorol;

·         Eglurhad am y trefniadau sydd ar waith i werthuso’r effaith y mae ymrwymiadau gwaith preifat meddygon ymgynghorol yn ei chael ar eu hymrwymiadau yn y GIG;

·         Rhagor o wybodaeth am sut mae cyrff y GIG yn mynd ati i adennill costau gan feddygon ymgynghorol os byddant yn defnyddio cyfleusterau'r GIG i ymgymryd â gwaith preifat, ac a fu achosion lle mae'r GIG wedi prynu amser meddygon ymgynghorol a ddyrannwyd ar gyfer gwaith preifat;

·         Rhagor o wybodaeth ynghylch a yw effaith y trefniadau gweithio hyblyg sy'n deillio o'r contract diwygiedig wedi cynyddu'r nifer o feddygon ymgynghorol sy’n fenywod.

(9:55 - 10:40)

3.

Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd - tystiolaeth gan Gymdeithas Feddygol Prydain

Dr Sharon Blackford, Cadeirydd, Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru  

Dr Trevor Pickersgill, Dirprwy Gadeirydd, Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru  

 

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Sharon Blackford, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru; a Dr Trevor Pickersgill, Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol Cymru.

 

3.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion ynghylch canfyddiadau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ‘Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd’.

4.

Papurau i'w nodi

PAC(4) 09-13 (Papur 1) Ymateb Llywodraeth Cymru i'r cam gweithredu - 18 Chwefror 2013

 

Cofnodion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r camau i’w cymryd yn y cyfarfod ar 18 Chwefror 2013, a chofnodion y cyfarfod ar 12 Mawrth 2013.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 6.

 

Cofnodion:

Eitemau 6 a 7

(10:40 - 10:45)

6.

Ystyried tystiolaeth ar y Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o’i ymchwiliad i Gontract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd.

(10:45 - 11:00)

7.

Ystyried gohebiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y posibilrwydd o gynnal astudiaeth Gwerth am Arian

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod astudiaethau gwerth am arian posibl i’w cynnal gan archwilwyr Swyddfa Archwilio Cymru.