Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

(9:05 - 9:30)

2.

Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori'

PAC(4) 07-13 – Papur 1 – Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp; a Jeremy Morgan, Arbenigydd Perfformiad, i’r cyfarfod.

 

2.2 Cafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei wahodd gan y Cadeirydd i wneud cyflwyniad i’r Pwyllgor ar ei adroddiad: 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori'.

 

(9:30 - 10:00)

3.

Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'

PAC(4) 07-13 – Papur 2 – Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Dave Thomas, Cyfarwyddwr Grŵp; a Malcolm Latham o’r adran Archwilio Perfformiad i’r cyfarfod.

 

3.2 Cafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei wahodd gan y Cadeirydd i wneud cyflwyniad i’r Pwyllgor ar ei adroddiad: 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'.

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2013.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6 i 9.

(10:00 - 10:10)

6.

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori'

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut yr oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori', a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.

(10:10 - 10:20)

7.

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd'

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut yr oedd am ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd', a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr.

(10:20 - 10:40)

8.

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg'

Cofnodion:

8.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ei ymchwiliad i gasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg', a gofynnodd i’r Clerc baratoi cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad.

(10:40 - 11:00)

9.

Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen, a chytunodd i ystyried gwelliannau terfynol i’r adroddiad drafft ar ffurf electronig.

 

9.2 Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi’r adroddiad yn fuan.

Trawsgrifiad