Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
||
(9:05 - 9:45) |
Gwybodaeth am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg PAC(4) 04-13 – Papur 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol a David Rees, Rheolwr Llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru. Camau i’w cymryd: Gofynnwyd i Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu: · Nodyn gyda rhagor o wybodaeth am bresenoldeb aelodau a benodwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Draenio (gan nodi aelodau awdurdodau lleol a swyddogion). · Nodyn gyda gwybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Draenio yn y gorffennol. |
|
(9:45 - 10:30) |
Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru' PAC(4) 04-13 – Papur 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Alan Morris, Cyfarwyddwr y grŵp archwilio perfformiad ac Emma Giles, Arbenigwr perfformiad.
|
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7. Cofnodion: Eitemau 6 a 7. |
||
(10:30 - 10:45) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin â Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer ymdrin â’r materion sy’n codi o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’. Cam i’w gymryd: Gofynodd y Pwyllgor i’r tîm clercio lunio papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad byr i’r materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.
|
|
(10:45 - 11:00) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin â'r Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru Camau i’w cymryd Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad. Penderfynodd y Pwyllgor ofyn am ddiweddariad ysgrifenedig gan Brif Weithredwr Adnoddau Naturiol Cymru ar weithredu argymhelliad a wnaed yn flaenorol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad ynghylch cyfranogiad y gymuned wrth wneud penderfyniadau. |
|
Trawsgrifiad |